PROSIECT DOLAU DYFI
DISGRIFIAD O’R SWYDD – SWYDDOG PROSIECT
Cyfle am swydd dros dro – 6 Mehefin i 30 Medi 2022
Cefndir
Mae Prosiect Dolau Dyfi yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd drwy Gynllun Rheoli Cynaliadwy’r Cynllun Datblygu Gwledig. Mae’n fenter gyffrous sy’n dwyn ynghyd weithgarwch cadwraeth, ffermio, mynediad a’r celfyddydau i hwyluso gwell iechyd a lles. Ei nod yw gwella a chreu cynefinoedd blodau gwyllt a darparu cyfleoedd newydd i bobl leol ac ymwelwyr ddod at ei gilydd a helpu i greu mannau gwyrdd hygyrch, sy’n gysylltiedig â’r cynefinoedd hyn, er mwynhad a lles.
Mae’r prosiect wedi bod yn rhedeg ers bron i dair blynedd ac mae’n chwilio am Swyddog Prosiect i weithio am 4 mis i gwblhau gweithgarwch y prosiect, cefnogi’r gwaith o fonitro a gwerthuso’r prosiect a sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau ar amser ac yn unol â’r gyllideb.
Y tasgau allweddol
- Cefnogi perchnogion y dolydd sydd eisoes yn rhan o’r prosiect ac eraill sydd â diddordeb mewn dolydd i weithio i sefydlu grŵp dolydd yn yr ardal
- Cefnogi a gweithio i fonitro a gwerthuso’r prosiect gan weithio’n agos gyda chontractwyr allanol
- Gweithio gyda chontractwyr, tirfeddianwyr a staff mynediad awdurdodau lleol i sicrhau bod gwaith gwella mynediad yn cael ei gwblhau i safon uchel a bod unrhyw faterion cynnal a chadw yn cael eu datrys
- Cydlynu a hwyluso gwaith y Rhaglen Gwirfoddolwyr gan weithio’n agos gyda’r contractwr sy’n rheoli’r gweithgareddau
- Cefnogi a hwyluso’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r teithiau cerdded iechyd a drefnir bob chwarter gan bartneriaid y prosiect
- Cefnogi’r gweithgarwch celfyddydol ac ar y cyd â phartneriaid, trefnu digwyddiad dathlu yn yr ardal ddechrau mis Medi
- Darparu’r gwaith ysgrifennu i Grŵp Llywio Dolau Dyfi
- Rheoli’r gyllideb gyda Rheolwr Prosiect Dolau Dyfi a gwneud gwaith caffael a gweinyddiaeth ariannol arall yn unol â gofynion y cyllidwr
- Unrhyw dasgau eraill y cytunwyd arnynt gyda Rheolwr y Prosiect neu’r Grŵp Llywio
Lleoliad: Lle ar gael mewn swyddfa ym Machynlleth ond gellir trafod opsiynau hyblyg
Cyflog: £26,500 (FTE)
Tymor y Contract: 30 Mehefin 2022
Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau rydym yn chwilio amdanynt:
- Cymhwyster perthnasol a phrofiad ymarferol o reoli tir ar gyfer cadwraeth natur.
- Gwybodaeth am ffermio a rheoli da byw, a phrofiad ymarferol ohonynt
- Gwybodaeth am brosiect Dolau Dyfi a’r hyn y mae wedi’i gyflawni hyd yma
- Profiad o gyflawni prosesau monitro ecolegol
- Profiad o drefnu a chynnal digwyddiadau
- Profiad o hyrwyddo gweithgarwch a dathlu llwyddiant gan ddefnyddio offer ar-lein
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol sy’n eich galluogi i flaenoriaethu, cyllidebu, cynllunio a chyflawni gweithgarwch y prosiect
- Sgiliau trefnu a gweinyddu rhagorol a gallu cyrraedd targedau a therfynau amser, gan gynnwys gallu defnyddio rhaglenni prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data a’r rhyngrwyd
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau
- Byddai sgiliau GIS yn fanteisiol
Ceisiadau a dyddiad cau
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Julia Korn (Julia.korn@pontcymru.org ) erbyn dydd Gwener 20 Mai. Trefnir cyfweliadau drwy Zoom yr wythnos ganlynol.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â: Julia Korn: 07421994860 neu Jan Sherry: 07421994861
Anfonwch eich cais drwy e-bost at: admin@pontcymru.org
Dyddiad cau: 6pm dydd Gwener 20 Mai
Cyfweliadau: w/d 23 Mai drwy Zoom
Dyddiad dechrau: 6 Mehefin
PWYSIG: Bydd pob gohebiaeth ynglŷn â’ch cais yn cael ei chynnal drwy e-bost. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi cyfeiriad e-bost y gallwn gysylltu â chi gydag ef o fewn yr amserlen uchod.
COFIWCH: Swydd dros dro yn unig yw hon a bydd y contract yn dod i ben ar 30 Medi 2022.
Cyfeiriad cofrestredig: PONT, C/O Cymdeithas Eryri, Caban, Brynrefail, Caernarfon, LL55 3NR.