Pori Cadwraeth yw pori gan dda byw sy’n arwain at fanteision niferus i fywyd gwyllt a phobl, nawr ac yn y dyfodol. Mae’r manteision hyn yn cynnwys y canlynol:
- Cynnal ein cynefinoedd bywyd gwyllt sydd â chyfoeth o rywogaethau drwy reoli rhywogaethau ymosodol ac ymledol, cynnal cynefinoedd agored a choediog, a chreu bylchau er mwyn i rywogaethau newydd egino.
- Gwella incwm ffermydd drwy well reolaeth ar bori tir ymylol a marchnata cynnyrch lleol a chyfeillgar i fywyd gwyllt.
- Helpu i wneud cymunedau’n fwy diogel ac yn iachach drwy leihau’r risg o dân a gwella mynediad i ofod gwyrdd. .
- Gwella cadernid drwy annog rheolaeth gynaliadwy ar briddoedd, cefnogi mentrau risg llifogydd a hybu poblogaeth iach o bryfed peillio.