Rydyn ni wedi bod yn edrych yn ôl dros ein huchafbwyntiau o flwyddyn gyntaf Prosiect Dolau Dyfi ac roedden ni eisiau rannu rhai ohonyn nhw gyda chi. Fel rhan o’r prosiect byddwn yn ymgymryd â rheoli cadwraeth yn ymarferol ar laswelltiroedd, mawndiroedd a ffriddoedd ar 39 o safleoedd lleol.Ym mlwyddyn gyntaf y prosiect rydyn ni wedi ymweld â 18 o’r safleoedd, wedi cynnal arolygon sylfaen ar 5 safle, wedi cwblhau gwaith ymarferol fel ffensio ar 14 o’r safleoedd hyn ac wedi gosod cynlluniau yn eu lle i gwblhau mwy o waith yn 2021. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwblhau mwy o waith gwella cynefinoedd yn 2021.
Mae’r gwaith cyfalaf sydd wedi’i gwblhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:
• 2460m x Ffensys stoc newydd (9 safle)
• 680m x Ffensys stoc wedi’u hatgyweirio/ cynnal a chadw (4 safle)
• 14 x Giatiau newydd wedi’u gosod yn eu lle (6 safle)
• 4 x Giatiau wedi’u ailhongian (4 safle)• 2 x Corlannau gwartheg newydd
• 5 x Pecynnau ffens drydan
• 4 x Cafnau dŵr (4 safle)
• 1 x Trac mynediad newydd (60m)
• 2 x Giatiau afon• 1 hectar o chwistrellu gwreiddiau rhododendron
• Torri rhedyn (4 safle)
• Torri mieri (1 safle)
• Torri gwair (1 safle)
• 12 x Cwmni contractio wedi’w cyflogi Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddal ati eto yn 2021!
Ers dechrau’r prosiect rydyn ni wedi cynnal 31 o deithiau cerdded iach, gan gynnwys teithiau cerdded cynnal a chadw, i helpu i ofalu am y llwybrau troed, a thaith gerdded treftadaeth a diwylliant. Wnaethoch chi fynychu taith gerdded? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn. Rydyn ni’n gobeithio cynnal mwy o deithiau cerdded yn ystod y misoedd sydd i ddod, dilynwch y dudalen yma i gael yr wybodaeth!
Rydyn ni wedi bod yn edrych yn ôl dros ein huchafbwyntiau o flwyddyn gyntaf Prosiect Dolau Dyfi ac roedden ni eisiau rannu rhai ohonyn nhw gyda chi. Roedd posib i ni addasu i’r pandemig drwy greu dau weithgaredd i bobl eu mwynhau wrth wneud eu hymarfer corff dyddiol a thrwy gynhyrchu pedair taflen gerdded yn ardal Dolau Dyfi, gan gynnwys manylion am bethau pwysig fel tir a pha mor addas yw’r llwybrau i gŵn.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd 6 Pharti Crefftus gennym ar gyfer plant lleol, gyda 65 o blant o 3 ysgol yn cymryd rhan. Cynhaliodd y cwmni lleol Ennyn CIC weithdai i helpu’r plant i greu gweithiau celf gwych.Gwnaethom hefyd gynhyrchu tair ffilm gweithgarwch i deuluoedd eu cwblhau gartref. Mae prosiect Dolau Dyfi wedi darparu cyfleoedd hyfforddi i bobl leol, gan gynnwys dau weithdy darllen map. Mae gennym gwrs archwilio stoc wedi’i gynllunio ar gyfer y gaeaf ac mae bwriad i ddechrau rhaglen o weithgareddau gwirfoddoli ym mis Ionawr!
Nod un o’r prosiectau yw ymgymryd â gwaith i wella llwybrau mynediad a chyfleoedd yn ardal y prosiect. Yn ystod y flwyddyn gyntaf buom yn arolygu 14 o lwybrau troed o amgylch Machynlleth a Thaliesin/Tre’r Ddôl a 13 llwybr marchogaeth o amgylch yr ardal. O ganlyniad, rydyn ni wedi ymgymryd â’r gwaith canlynol:
• 12 x Giatiau hunan-gloi wedi’u gosod yn eu lle
• 4 x Giatiau mochyn pren wedi’u hatgyweirio
• 70m o lwybr troed wedi’u hailwynebu
• 1 x giât cae wedi’i hailhongian
• 4 x Camfeydd camu drostynt i’w newid gan Network Rail
Ein camau nesaf yw paratoi cynllun gwaith ar gyfer Gwanwyn/Haf 2021 a chysylltu â pherchnogion tir a grwpiau marchogaeth i wneud hynny.
Rydyn ni’n gobeithio eich bod wedi mwynhau clywed ein huchafbwyntiau o flwyddyn gyntaf prosiect Dolau Dyfi. Wnaethoch chi gymryd rhan mewn unrhyw ran o’r prosiect? Rhannwch eich meddyliau, eich profiadau a’ch lluniau gyda ni!