Merlod Cwlwm Seiriol
Un o amcanion y prosiect Cwlwm Seiriol yw rheoli a gwella ardaloedd o dir ar gyfer bywyd gwyllt, difyrrwch a mynediad o fod rhaid i ni gadw nifer y stalwyni ar y lefel cywir er mwyn sicrhau nad ydynt yn brwydro gyda'i gilydd nag yn poeni’r cesig.
Taith Addysgol Prosiect Bernie
Mae Taith Addysgol Prosiect Bernie yn rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol GTADC sy’n ceisio lleihau nifer y tanau glaswellt bwriadol drwy newid agwedd, gwybodaeth ac ymddygiad pobl. Yr arwyddair ydi ‘Grass is Green – Fire is Mean.’ Mae Bernie yn frand cyfarwydd sy’n cael ei ddefnyddio gan GTADC a rhanddeiliaid eraill er mwyn cyflwyno negeseuon cyffredin ledled yr ardal.
Prosiect Gwella Bioamrywiaeth Comin Coity Wallia
Codi ymwybyddiaeth o broblemau drwy addysgu a gweithio gyda’r gymuned.
Gwella cynefinoedd blaenoriaeth gyda phwyslais arbennig ar y gardwenynen feinlais, y brith brown a brith y gors.
Cyfrannu at yr economi leol.
Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn
Mae Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn (PAPYM) yn gynllun pori lleol sy’n gweithio i gysylltu tir o fudd i fywyd gwyllt a chadwraeth gyda phorwyr a ffermwyr a all gyflenwi stoc pori addas er budd bywyd gwyllt, y tirlun a threftadaeth ddiwylliannol Ynys Môn.
Rheoli Cŵn yng Nghefn Gwlad
Menter ledled y DU i hybu gwell ymddygiad a rheolaeth ar gŵn o amgylch da byw. Hon oedd y gynhadledd gyntaf gan ffurfio gweithgor i edrych ar ffyrdd o leihau ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid yn pori. Mae PONT wedi dod yn rhan o’r gweithgor a bydd yn mynychu digwyddiadau pellach i ymchwilio a chynllunio dulliau o wella ymddygiad cŵn a deall y problemau y gall cŵn eu hachosi.
Cwrs hyfforddi PONT “Gweithio gyda Ffermwyr a Deall Pori gan Dda Byw”
Mae PONT wedi datblygu cwrs hyfforddi undydd sy’n esbonio systemau ffermio, rheoli pori gan dda byw a sut i weithio gyda ffermwyr. Cafodd ei gyflwyno i grwpiau yn Ne Cymru yng Nghynffig ac yng Ngogledd Cymru ger Bethesda. Cafod cyfanswm o 56 o bobl eu hyfforddi dros gyfnod o 3 diwrnod.