Fel sefydliad sy’n cael Cyllid Craidd gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd mis Mawrth 2018, gall PONT gynnig gwasanaethau am ddim yn unol â’r blaenoriaethau sydd wedi’u datgan yn ein cynllun gwaith a thargedau sydd wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru. Cofiwch gysylltu â’ch Swyddog Rhanbarthol os hoffech drafod meysydd gwaith penodol.
Os na fyddwn yn gallu cynnig y cyngor am ddim rydych ei angen, mae gan PONT amrywiaeth o wasanaethau y gall eu cynnig am ffi i unigolion a sefydliadau. Cofiwch gysylltu ag un o’r Cydlynwyr os hoffech drafod yr opsiynau hyn.
CYNGOR AR REOLI TIR A PHORI
Mae PONT yn gweithio gyda ffermwyr, porwyr, sefydliadau a chymunedau i gynghori ac I weithredu rheolaeth ar dir, gan gynnwys pori cyfeillgar i fyd natur, cyswllt â’r cyhoedd a gwaith mynediad.
Mae gan PONT sgiliau a phrofiad i ysgwyddo’r rheolaeth gyffredinol am warchodfeydd natur a safleoedd eraill sydd â rheoli pori fel prif ofyniad.
Paratoi manylebau Gwaith Cyfalaf agoruchwylio safleoedd
Gall staff PONT ysgrifennu manylebau ar gyfer amrywiaeth eang o waith seilwaith a chyfalaf a gweithgareddau rheoli cynefinoedd.
Gall PONT reoli’r broses dendro, penodi contractwyr a goruchwylio gwaith ar safle i sicrhau ei fod yn cael ei wneud i’r safon sy’n ofynnol.
Paratoi cytundebau rheoli
Mae gan staff PONT brofiad helaeth o drefnu a pharatoi cytundebau rheoli Adran 16 gan weithio’n agos â staff CNC ac Asiantau Tir.
Mae gan staff PONT brofiad helaeth o weithio gyda deiliad cytundeb, gan ymweld â’r fferm yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn deall y cytundeb ac yn cael help i sicrhau’r canlyniadau a ddymunir.
Hefyd gall staff PONT lunio trwyddedau pori athrwyddedau eraill.
Rhwydwaith Ffermio
Mae gan PONT wybodaeth amaethyddol fanwl sy’n gallu helpu gyda chyswllt a chyfathrebu ac mae ganddo allu i ddefnyddio aelodau’r gymuned ffermio i ddarparu da byw ar gyfer safleoedd.
Gwerthuso, rheoli ac arolygon
Mae gwasanaethau PONT yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
- Cynnal arolwg maes ecolegol, monitro ac asesu
- Asesu ac arolygu da byw e.e. arolygon ar ferlod lled-wyllt
- Llywio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno methodolegau monitor
- Datblygu a chyflwyno tystiolaeth i gynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys cyrff statudol
Rheoli rhostiroedd
Gall staff PONT ddatblygu cynlluniau i reoli rhostiroedd a sefydlu cynhyrchu gwasarn rhostir a’i ddefnyddio Mae PONT wedi gweithio am sawl blwyddyn i
sefydlu gwasarn rhostir fel ffordd gosteffeithiol a chynaliadwy o ddefnyddio’r cynnyrch a geir o reoli llystyfiantrhostiroedd.
Gweithio gyda’r gymuned
Mae gwasanaethau PONT yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
- Gweithio gyda chymunedau i reoli eu safleoedd lleol, gan gynnwys hyfforddi a chefnogi Archwilwyr Stoc
- Trefnu a hwyluso digwyddiadau, gweithdai a seminarau
- Cynnal ymgynghoriadau lleol a llunio adroddiadau i gefnogi ceisiadau cyllido
- Gweithio i roi sylw i broblemau lleol gyda phori e.e. problemau’n codi o gŵn a da byw
Cefnogaeth gyda chynlluniau amaeth amgylcheddol
Gall staff PONT gynorthwyo gyda gofynion pori ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol.
Mae gan PONT brofiad helaeth o ddatblygu taliadau am gynlluniau canlyniad a gall gynghori ar sgorio, monitro a rheoli amrywiaeth o gynefinoedd a nodweddion tirwedd.
Gall PONT gynghori a chefnogi gyda datblygu taliadau am gynlluniau nwyddau cyhoeddus a’u rhoi ar waith yn ymarferol.
Marchnata
Mae gan PONT brofiad sylweddol o sefydlu grwpiau marchnata a gweithio gyda chynhyrchwyr er mwyn edrych ar lwybrau i’r farchnad i wella incwm a chynaliadwyedd.
Hyfforddiant
Mae PONT yn cyflwyno portffolio o gyrsiau hyfforddi y gellir eu cynnal yn unrhyw le yng Nghymru.
Mae’r cyrsiau’n cynnwys y canlynol:
- Pori Cadwraeth,
- Gweithio gyda Ffermwyr,
- Pori ar gyfer rheoli gwahanol fathau o gynefinoedd,
- Rheoli Cŵn yng Nghefn Gwlad a chwrs/li>
- Archwiliwr Stoc wedi’i achredu gan LANTRA.
Bydd PONT yn ystyried cyrsiau eraill a gall drefnu a chynnal cynadleddau ar ran sefydliadau eraill sydd ag amcanion tebyg.