Swyddog Pori Cadwraeth
Gweithio Gartref
Cyflog: £26,500 pro rata (ynghyd â chyfraniad pensiwn o 5%)
Llawn Amser 37.5 awr yr wythnos
Am 6 mis i ddechrau, yn dibynnu ar gyllid, mae bwriad i wneud y swydd yn un barhaol.
Lleoliad
Mae’r swydd hon yn swydd gweithio o gartref felly mae’r lleoliad yn hyblyg yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodlon teithio.
Cefndir
Mae PONT (Pori, Natur a Threftadaeth) yn sefydliad nid-er-elw sy’n bodoli i annog a hwyluso pori er budd bywyd gwyllt, tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Er mwyn cyflawni’r canlyniadau hyn, mae PONT yn ceisio recriwtio Swyddog Pori Cadwraeth brwdfrydig, llawn hunangymhelliant. Bydd y Swyddog yn gweithio gyda thîm PONT i feithrin capasiti, darparu cyngor, rhannu gwybodaeth a chefnogi sgiliau sy’n hyrwyddo gwerth pori cadwraeth ac ehangu ei ddefnydd yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth
Am swydd ddisgrifiad anfonwch e-bost i info@pontcymru.org
Dyddiad cau 4 Tachwedd. 5pm
Cynhelir y cyfweliadau ar 17 Tachwedd