Datganiad Preifatrwydd

Mae diogelu eich preifatrwydd yn bwysig i Pori Natur a Threftadaeth (PONT) ac rydyn ni wedi ymrwymo i roi gwybod i chi sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol ac i ddefnyddio eich data mewn ffordd gyfrifol yn unig.

Mae’r cyfeiriadau at “rydyn ni”, “ni”, “chi” neu “ein” yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn cyfeirio at PONT, cwmni cyfyngedig drwy warant sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru, rhif cofrestru’r cwmni: 07353806.

1. Gwybodaeth amdanoch chi

1.1   Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol gennych pan fyddwch chi neu’ch mudiad yn holi am ein gweithgareddau, yn cofrestru fel aelod ar y ffurflen gwair neu dail, yn tanysgrifio i’n cylchlythyr neu’n cadw lle ar un o’n cyrsiau neu ddigwyddiadau. Gallai hyn gynnwys eich enw, teitl, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost, rhifau ffôn a theitl swydd. Efallai y byddwn yn gofyn hefyd am ragor o wybodaeth bersonol a heb fod yn bersonol megis gofynion dietegol, ac ni fydd yn rhaid i chi ateb y cwestiynau hyn fel rheol.

2. Ein defnydd o’r wybodaeth hon

2.1   Dim ond i brosesu eich ceisiadau, i ddarparu ein gwasanaethau i chi, ac i ddarparu gwybodaeth i chi am ein gwasanaethau, a’r holl wasanaethau eraill rydyn ni’n meddwl a allai fod o ddiddordeb i chi y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. 

2.2   Yn gyffredinol, nid ydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth, fodd bynnag, ar adegau, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’n partneriaid pan fyddwn yn cydweithio â nhw.

3. Diogelwch

3.1   Byddwn yn dilyn rhagofalon rhesymol i atal colli, camddefnyddio neu newid y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

3.2   Mae’n bosibl y bydd gohebiaeth yng nghyswllt y gwasanaeth hwn yn cael ei hanfon drwy e-bost. Er hwylustod a chysondeb, ni fydd gohebiaeth (ac eithrio taliadau lle bo hynny’n berthnasol) yn cael ei hanfon wedi’i hamgryptio oni bai eich bod yn gofyn am hynny ac yn darparu ardystiad i’n galluogi ni i gyfathrebu â chi fel hyn. Nid yw e-bost oni bai ei fod wedi’i amgryptio yn ffordd gwbl ddiogel o gyfathrebu. Er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu ein systemau a’n gohebiaeth rhag firysau ac effeithiau niweidiol eraill, ni allwn fod yn gyfrifol am sicrhau nad oes firysau yn yr holl ohebiaeth.

4. Cwcis

4.1 Os bydd cwcis yn cael eu defnyddio, dim ond i helpu gyda’r dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn y bydd hynny’n digwydd, ond ni fydd cwcis yn cael eu defnyddio os nad ydyn ni’n ystyried bod hynny’n angenrheidiol. Darllenwch ein Polisi Defnyddio Cwcis am fwy o wybodaeth.

5. Diogelwch Ariannol

5.1 Mae’r holl ffurflenni PONT sy’n gofyn am fanylion cerdyn credyd neu fanylion banc yn defnyddio’r protocol SSL (Haen Socedi Diogel) ar gyfer amgryptio. Mae’r rhan fwyaf o borwyr (Microsoft Explorer, Mozilla Firefox, Safari, ac ati) yn gallu delio ag SSL. Mae’r cyswllt rhwng eich porwr a’r gweinydd yn ddiogel os yw eich porwr yn dangos clo bach neu symbol allwedd rywle yn y ffrâm, neu os yw’r bar cyfeiriad yn dangos cyfeiriad gwe yn dechrau gyda https:// (yn hytrach na http://).

6. Defnyddwyr dan 18 oed

6.1 Os ydych chi dan 18 oed, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn anfon unrhyw wybodaeth bersonol at y wefan hon. Nodwch na fydd PONT yn derbyn archebion ar gyfer nwyddau neu wasanaethau yn fwriadol gan bobl dan 18 oed.

6.2 Rydyn ni’n annog rhieni a gwarcheidwaid i fod yn ymwybodol o’r gweithgareddau y mae eich plant yn cymryd rhan ynddynt all-lein ac ar-lein, yn enwedig o ran gwefannau trydydd parti. Os yw eich plant yn gwirfoddoli i ddatgelu gwybodaeth, gallai hyn annog negeseuon na ofynnwyd amdanynt. Rydyn ni’n awgrymu eich bod yn annog eich plentyn i beidio â darparu unrhyw wybodaeth heb eich caniatâd.

7. Gwybodaeth arall

7.1   Os hoffech i ni gywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth, neu os hoffech i ni ddileu gwybodaeth o’n cofnodion, yna anfonwch e-bost i admin@pontcymru.org

7.2   Mae’n bosibl y bydd y polisi preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru o dro i dro, felly cofiwch ei ddarllen o bryd i’w gilydd.

7.3   Nid yw’r dolenni yn ein safleoedd i wefannau eraill wedi’u cynnwys yn y polisi preifatrwydd hwn.
 
DARLLENWCH Y DATGANIAD PREIFATRWYDD HWN OCHR YN OCHR Â PHOLISI DEFNYDDIO CWCIS A THELERAU AC AMODAU EIN GWEFAN.

Telerau ac Amodau’r Wefan

Mae’r cyfeiriadau at “rydyn ni”, “ni”, “chi” neu “ein” yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn cyfeirio at PONT, cwmni cyfyngedig drwy warant sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru, rhif cofrestru’r cwmni: 07353806.

Ni chewch newid y wefan hon mewn unrhyw ffordd na phostio neu drosglwyddo unrhyw ddeunydd i’r wefan hon sy’n cynnwys firysau meddalwedd neu ffeiliau a allai ddifrodi neu amharu ar sut mae’r cyfarpar cyfrifiadurol neu delegyfathrebiadau yn gweithio.

1. Hawlfraint

1.1   Mae’r deunyddiau yn y safle hwn naill ai dan hawlfraint y cyfranwyr unigol neu dan hawlfraint PONT, a gall fod yn ddarostyngedig i hawliau eiddo deallusol eraill.

2. Defnyddio’r wefan hon

2.1   Mae’r gweithredoedd canlynol wedi’u gwahardd o ran y wefan hon ac unrhyw gynnwys a geir arni:

• Unrhyw achos o brydlesu neu fenthyca ar rent unrhyw ddeunydd a geir ar y wefan neu sy’n deillio ohoni;

• Atgynhyrchu, gan gynnwys heb gyfyngiad y broses echdynnu a/neu storio mewn unrhyw system adfer neu ei chynnwys mewn unrhyw raglen neu waith arall ar y cyfrifiadur, heb ganiatâd ymlaen llaw PONT. Os ydych yn dymuno atgynhyrchu unrhyw gynnwys, mae’n rhaid i chi gysylltu â ni ac efallai y byddwn yn codi ffi. Cysylltwch ag admin@pontcymru.org a fydd yn gallu eich cynghori ynghylch hyn.

• Newid, trawsnewid neu ychwanegu at unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y wefan hon.

• Rhaid cadw pob hawlfraint, hysbysiad nod masnach, marc, ymwadiad ac elfennau eraill o’r fath a chynnal hynny bob amser.

3. Dolenni i safleoedd trydydd parti

3.1   Efallai y bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau sy’n cael eu gweithredu gan drydydd parti. Mae gweithrediad y gwefannau hyn y tu hwnt i reolaeth PONT a chi sy’n gyfrifol am fynd yn eich blaen. Nid ydyn ni’n cymeradwyo nac yn noddi, ac nid ydyn ni’n atebol am y cynnyrch, y gwasanaethau na’r cynnwys a gewch drwy unrhyw safle cysylltiedig.

4. Diogelu data

4.1   Byddwn yn casglu, yn defnyddio, yn storio ac yn datgelu eich manylion personol yn unol â’n Polisi Preifatrwydd.

5. Cyffredinol

5.1   Os nad oes modd gorfodi unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, ni fydd hyn yn effeithio ar orfodi unrhyw ran arall.

DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU OCHR YN OCHR Â PHOLISI DEFNYDDIO CWCIS A DATGANIAD PREIFATRWYDD EIN GWEFAN.