PONT (Pori Natur A Threftadaeth)
Mae PONT yn dod â gwybodaeth, arbenigedd a sgiliau ymarferol mewn perthynas â chadwraeth a phori ledled Cymru at ei gilydd ac yn eu rhannu. Y nod yw gweithio gyda’r rhai yn y byd ffermio, cadwraeth, cymunedau lleol a grwpiau eraill sydd â diddordeb i helpu i gyflwyno datrysiadau pori ymarferol sydd o fudd i fuddiannau amrywiol mewn ffordd integredig.
Codi pontydd rhwng y rhai sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau cefn gwlad i sicrhau bod gan ein tirlun gwaith ni gyfoeth o fywyd gwyllt a’i fod yn gallu gwrthsefyll heriau’r dyfodol.
Ein Cenhadaeth:- Cefnogi ac annog ffermwyr i reoli eu tir ar gyfer bwyd, budd cymunedol a byd natur.
- Annog ac addysgu cymunedau lleol i ddefnyddio a mwynhau cefn gwlad mewn ffordd gyfrifol.
- Pontio’r bwlch rhwng y dref a’r wlad i gynyddu cyfleoedd i gydweithio er budd y ddwy ardal.
- Gweithio gyda sefydliadau amgylcheddol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u gallu i weithio gyda’r gymuned ffermio i ddatblygu datrysiadau i heriau cadwraeth natur.
Ein Gwerthoedd
Cynhwysol – Gwerthfawrogi arbenigedd a gwybodaeth y ffermwr i gefnogi penderfyniadau cadwraeth natur.
Cynaliadwy – Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Datrysiadau tymor hir yn hytrach nag atebion cyflym sy’n sail i’n dull ni o weithio.
Cefnogol – Grymuso pobl â gwybodaeth ac adnoddau i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Democrataidd – Rhoi cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn penderfyniadau lleol am eu hamgylchedd lleol.
Angerddol – Rydym yn angerddol am bontio’r bwlch rhwng ffermio, bywyd gwyllt a chymunedau lleol.