Mae PONT yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi proffesiynol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Mae’r cyrsiau’n cynnwys modiwlau fel eich bod chi’n gallu creu portffolio o wybodaeth drwy ddewis y rhai priodol.
Hefyd gallwn addasu cyrsiau i ddiwallu eich anghenion chi. Os hoffech i PONT gyflwyno cwrs i chi, cofiwch gysylltu a bydd cyfle i ni drafod.
Ein Hyfforddwyr
Rheolir ein hyfforddiant gan Hilary Kehoe ac mae gan staff eraill gymwysterau a phrofiad hyfforddi. Maen nhw’n cydweithio â ffermwyr ac eraill sydd â gwybodaeth berthnasol i roi sylfaen eang o brofiad.
Pwy ydym yn eu hyfforddi?
Gweithwyr cadwraeth proffesiynol, rheolwyr da byw, staff y gwasanaeth tân, heddluoedd, myfyrwyr, gwirfoddolwyr a ffermwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb.
Y peth gorau yw ein bod yn gallu cynnig hyfforddiant yn unrhyw le yng Nghymru – cysylltwch i drafod eich anghenion hyfforddi gyda Hilary.
Aynglyn a’n Cyrsiau
Archwiliwr stoc
- Achredwyd gan LANTRA
- Hyd: 1 diwrnod
- Ble: taith gerdded ar fferm, sesiynau ymarferol a dosbarth
- Yn cynnwys: Pob agwedd ar archwilio stoc
- Sylw: “Rhagorol a defnyddiol iawn – yn cynnwys POB maes – ymarferol a theori”.
CYRSIAU PROFFESIYNOL PONT
- Hyd: 1 diwrnod
- Ble: Ar y fferm, gwarchodfeydd natur ac yn y dosbarth, gyda chyfraniad gan asiantau tir neu undebau ffermio.
- Yn cynnwys: Everything you need to know to help you understand farmers, stock management and farming systems from farm finances to what stock to graze where.
- Sylwadau: “Wedi bod yn aros am hyn ers blynyddoedd! Roedd yn rhoi popeth mewn cyd-destun”.
- Hyd: 1 neu 2 ddiwrnod – gan ddibynnu ar y manylder gofynnol.
- Ble: Ar y fferm, gwarchodfeydd natur ac yn y dosbarth.
- Yn cynnwys: Trafod gyda staff safle a’r porwr a gwybodaeth am wahanol opsiynau a dulliau ar gyfer pori a rheoli da byw er lles cadwraeth natur mewn amrywiaeth o gynefinoedd.
- Sylwadau: – “Cyflwyniad da i bori cadwraeth – mae’n grêt clywed gan borwyr a rheolwyr ar wahanol safleoedd.”
i adfer coetiroedd
- Hyd:1 diwrnod
- Ar y fferm, gwarchodfeydd natur ac yn y dosbarth
- Yn cynnwys: Gwybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau ac opsiynau ar gyfer rheoli, gan gynnwys drwy bori. Mae’n edrych ar economeg pori gan dda byw a hefyd yr heriau a’r cyfleoedd.
- Ynefinoedd newydd i gael eu hychwanegu yn 2018 gan gynnwys Pori a rheoli glaswelltiroedd a rhostiroedd arfordirol a Thechnegau adfer glaswelltiroedd
- Sylwadau: “Roedd hwn yn gyfle defnyddiol iawn i ddysgu gan ymarferwyr eraill ac i edrych ar dechnegau rheoli.”
CYRSIAU NEWYDD AR GYFER GWANWYN 2018
- Cynulleidfa: Ffermwyr, Gweithwyr cadwraeth proffesiynol a myfyrwyr
- Canlyniadau dysgu: Dealltwriaeth o sut i reoli a defnyddio tir ymylol i wella’r defnydd gan y fferm ac i fod o fudd i gadwraeth
- Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio ar gyfer haf 2018
- Cynulleidfa: Y cyhoedd yn gyffredinol, Sefydliadau
- Canlyniadau dysgu: Datblygu dull cyffredin o reoli cŵn a’u perchnogion er mwyn cynnal pori ar safleoedd cyhoeddus.
- Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio ar gyfer haf 2018