Mae PONT yn cael ei gyllido drwy gymysgedd o brosiectau sy’n cael cymorth grant a gwaith contract. Rydym yn gweithio gyda phrosiect partneriaeth sy’n cael ei gyllido gan grant o dan arweiniad amrywiaeth o gyrff anllywodraethol ac awdurdodau lleol.
Mae’r ffynonellau cyllido’n cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri, y Loteri Fawr a grantiau SMS ac ENRaW Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwneud gwaith i Gyfoeth Naturiol Cymru, unigolion preifat a sefydliadau eraill. Fis Awst 2019, sefydlwyd prosiect tair blynedd gennym yng Nghanolbarth Cymru gyda chyllid grant SMS Llywodraeth Cymru.
Mae PONT yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n ceisio gwneud y canlynol:
- Hybu rheoli pori a thir er budd byd natur, y dirwedd a’r dreftadaeth ddiwylliannol drwy weithio gyda ffermwyr, sefydliadau, cymunedau a phorwyr.
- Hybu gwaith a thirweddau diwylliannol sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt ac yn gadarn yn wyneb heriau yn y dyfodol drwy godi pontydd rhwng y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad a’r rhai sy’n dod i’w fwynhau.
- Rhoi gwybodaeth i gymunedau lleol ac ymwelwyr a’u hannog i ddefnyddio a mwynhau’r cefn gwlad mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy.
- Datblygu’r dystiolaeth fel sail i ddatrysiadau seiliedig ar natur i heriau rheoli tir er budd y cyhoedd.
- Hybu addysgu’r cyhoedd a phobl broffesiynol am gadwraeth a gwarchod yr amgylchedd naturiol a rôl ffermio yn y cyd-destun hwn.
Am ragor o wybodaeth edrychwch ar Dudalen Gwasanaethau PONT.
Mae PONT yn parhau i chwilio am arian grant fel ei fod yn gallu cynnig ei wasanaethau hynod werthfawr am bris is neu am ddim er mwyn hybu uchelgais y sefydliad, fel y nodir uchod.