Cefndir PONT:

Mae PONT yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau i gyflwyno trefn bori briodol er lles bywyd gwyllt, ar safleoedd unigol ac ar lefel leol a rhanbarthol. Gwelir enghreifftiau o sut mae PONT wedi helpu i ddarparu atebion pori llwyddiannus ar y tudalennau Prosiectau a Gwybodaeth.

Yn ychwanegol at gynnig atebion ar y tir, mae PONT yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth am gynlluniau pori lleol ac esiamplau o arfer gorau. Hefyd mae PONT yn gweithio i sicrhau bod pwysigrwydd anifeiliaid pori wrth reoli cynefinoedd er lles bywyd gwyllt yn cael ei gydnabod ar bob lefel. Mae cynrychiolwyr PONT yn aelodau o grwpiau ecosystemau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, yn ogystal â Plant Link Cymru.

Mae PONT yn cynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr yng nghefn gwlad, fel archwilio stoc a bugeilio manwl. Trefnir digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd sy’n rhoi sylw i faterion fel rheoli cŵn, cerdded gyda da byw a rheoli dolydd gwair mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Gweler ein tudalen ni ar Facebook a’r dudalen Newyddion i gael rhagor o fanylion.

Mae PONT yn ceisio cyfrannu gwybodaeth at bolisïau’r llywodraeth ar faterion amgylcheddol a chefn gwlad ehangach, a dylanwadu arnynt. Sylfaenwyd PONT yn 2005 gan y chwaraewyr allweddol yn y byd cadwraeth natur ac amaethyddiaeth yng Nghymru ac wedyn, yn 2010, cafodd ei ymgorffori fel cwmni dielw cyfyngedig trwy warant. Mae PONT yn cael cefnogaeth a chyfraniad gan amrywiaeth o sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys tri sefydliad cadwraeth, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, cymdeithasau bridiau brodorol ac undebau ffermio. Cefnogir PONT yn ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Jul 22 2014_6963 PONT Consitution – Cymraeg – June 2016