Richard Jones Swyddog Prosiect Dolau Dyfi

Richard Jones Swyddog Prosiect Dolau DyfiHelo, fy enw i yw Richard Jones, a fi yw’r swyddog prosiect ar gyfer Dolau Dyfi, Cynllun Rheoli Cynaliadwy Lywodraeth Cymru sy’n cael ei gefnogi gan yr European Agricultural Fund for Rural Development (EAFRD)”.

Wedi fy ngeni a’n magu yn Nolgellau, rwy’n byw ar ein fferm deuluol lle rydym yn cadw buches o wartheg Shetland, magu lloi Henffordd ac Aberdeen Angus croes ar fwced hyd nes maent yn barod i darw, ac yn cadw ychydig o ferlod Adran B Cymraeg.

Rwyf wedi gweithio fel swyddog prosiect ar brosiect amgylcheddol tebyg yn y gorffenol gyda’r Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ond yn fwy ddiweddar roedd gennyf gwmni contractio amaeth-amgylcheddol fy hun cyn ymgymryd â’r rôl gyda PONT fel swyddog prosiect Dolau Dyfi.

Rwy’n edrych ymlaen at yr her, a chwrdd â phobl newydd o fewn dalgylch Dyfi a thu hwnt. Mae croeso i chi siarad neu ysgrifennu ataf yn y Gymraeg, yn enwedig os ydych yn ddysgwr, gan fy mod yn siarad Cymraeg yn rhugl.

E-bost Richard Jones

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>