Mae PONT wedi llwyddo i sicrhau arian grant gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd drwy Gynllun Rheoli Cynaliadwy y Cynllun Datblygu Gwledig. Nod Prosiect Dolau Dyfi yw gwella a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt a helpu i gysylltu pobl a byd natur drwy amrywiaeth o weithgareddau mewn cymunedau lleol ac yn yr ardal ehangach.
Mae glaswelltir lled-naturiol tir isel wedi dioddef colledion dramatig a amcangyfrifir fel 97% yn y DU ers 1930 a dim ond darnau ar wasgar o ddolydd tir isel, rhostir a chorsydd sydd ar ôl. Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd â gwaith i wyrdroi’r dirywiad yn lleol ac felly’n gwella ac yn adfer cynefinoedd o flodau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau, ac o fudd hefyd i bryfed peillio, adar tir amaethyddol a rhywogaethau eraill, gan greu cyfleoedd newydd i weithio gyda byd natur.
Mae rheoli cadwraeth ymarferol ar laswelltiroedd, mawndir a ffridd wedi’i gytuno eisoes a’i gostio fel rhan o’r prosiect gyda mwy na 30 o berchnogion tir lleol. Mae’r gwaith y bydd y prosiect yn buddsoddi ynddo’n cynnwys rheoli prysgwydd, rhedyn ac eithin, ffensys a seilwaith arall ar gyfer pori, yn ogystal â help ymarferol i fonitro effaith y gwaith sy’n cael ei wneud. Bydd Grŵp Dolau Dyfi yn cael ei sefydlu i gefnogi perchnogion tir i reoli eu cynefinoedd sy’n blodeuo yn y tymor hir.
Hefyd bydd y prosiect yn buddsoddi mewn gweithgarwch sy’n helpu pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau manteision byd natur a gweithio gyda’u hamgylchedd naturiol a dysgu amdano. Gan ddefnyddio clychlys dail eiddew fel symbol nodedig o fywyd gwyllt sy’n arbennig yn yr ardal, bydd Dolau Dyfi yn ymgymryd â gwaith gyda grwpiau, sefydliadau ac unigolion lleol i ddatblygu syniadau ar gyfer gwell mynediad a gweithgareddau celf. Bydd y prosiect hefyd yn buddsoddi mewn rhaglen o deithiau tywys a gweithgareddau gwirfoddolwyr, er budd iechyd a lles, drwy gydol cyfnod y prosiect, sy’n weithredol tan ddiwedd mis Mehefin 2022.
Beth i chwilio amdano yr hydref yma:
Teithiau Tywys: Mae’r prosiect eisoes wedi cytuno i gyllido 4 taith dywys o Fachynlleth a 4 o Aberystwyth gan ychwanegu at y rhaglen o deithiau cerdded sy’n cael ei chynnig eisoes drwy gyfrwng y Prosiect Iechyd Awyr Agored. Ewch i www.ecodyfi.cymru/cyf neu www.coedlleol.org.uk/referrral am fwy o wybodaeth.
Recriwtio: Hoffai PONT recriwtio Swyddog Prosiect i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd y prosiect hwn. Edrychwch ar yr wybodaeth ar y wefan hon. Dyddiad cau Dydd Gwener 8 Tachwedd.
Gweithgareddau celf: Rydyn ni eisiau datblygu rhai syniadau ar gyfer ein gweithgareddau celf. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth am hyn. Hefyd rydyn ni’n gobeithio cynnal gweithdy creu torch ym marchnad Machynlleth cyn y Nadolig. Mae’r manylion hyn eto i’w cadarnhau ond cofiwch gadw llygad ar wefan a chyfryngau cymdeithasol PONT am fanylion.
Lleoliad Myfyriwr: Hoffai PONT recriwtio myfyriwr yn 2020 ac un yn 2021 i helpu Swyddog y Prosiect. Bydd y lleoliad hwn yn cynnig tâl a chyfle rhagorol i gael profiad amgylcheddol a chymunedol, naill ai fel blwyddyn ryngosod neu fel cyfle ôl-radd. Cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau wrth i ni recriwtio, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin ac os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â PONT – admin@pontcymru.org