Helo, Richard Jones ydw i, y swyddog prosiect ar gyfer prosiect Dolau Dyfi. Dyma ddiweddariad am beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers y flwyddyn newydd …
Gan fod y prosiect wedi dechrau’n swyddogol cyn i mi gael fy mhenodi, a gyda diwedd y flwyddyn ariannol ar y gorwel, fe ddywedwyd wrtha’ i am fwrw iddi ar unwaith … ac fe wnes i!
Felly, hyd at yr 20fed o Fawrth, mae rhywfaint o’r gwaith sydd wedi’i wneud yn cynnwys y canlynol:
- Wedi ymweld â chyfanswm o 14 o safleoedd
- 5 safle wedi llofnodi cytundebau rheoli
- Cytundebau rheoli wedi’u drafftio ar gyfer 3 safle arall
- Gwaith cyfalaf ar 2 safle wedi’i gwblhau
- Offer ffensio wedi’i brynu ar gyfer 3 safle arall
- Gofyn i gontractwyr lleol roi pris am waith cyfalaf ar gyfer 4 safle, gyda’r gwaith i gael ei gwblhau yn ystod y chwarter nesaf
- Cwblhau arolwg ar gyflwr llwybrau troed
Mae wedi bod yn dri mis prysur iawn hyd at ddiwedd mis Mawrth!!! Deuddeg wythnos yn y swydd ac rydw i wedi mwynhau’r cyfan, ar wahân i’r holl dywydd gwlyb rydyn ni wedi’i gael. Er hynny, ni wnaeth y glaw atal y chwarae, ac fe gwblhawyd yr holl waith safle a bennwyd ar gyfer y chwarter hyd at Fawrth 31ain i safon ragorol gan ddefnyddio contracwtyr lleol a deunyddiau o ffynonellau lleol.
Yn anffodus, oherwydd pandemig Covid-19, a chyfyngiadau’r llywodraeth, mae’n golygu nad yw rhywfaint o’r gwaith ar y safle a’r ymweliadau’n gallu cael eu cynnal. Er hynny, rydyn ni’n gallu dal ati gyda gwaith ar y prosiect, ond yn arafach nag y byddem yn dymuno, ac unwaith bydd y cyfyngiadau wedi’u codi, gobeithio y byddwn yn gallu gweithio ar raddfa lawn unwaith eto.
Un esiampl o waith rydyn ni wedi bod yn ei wneud yw’r gwaith ar safle ger Borth. Y nod tymor hir yma yw sefydlu dolydd gwair sy’n blodeuo gyda chyfoeth o rywogaethau. Mae’r caeau wedi cael eu gadael heb eu rheoli ers blynyddoedd ac mae’r llystyfiant wedi gordyfu, felly gofynnwyd i gontractwr dorri a chasglu’r hen lystyfiant a’i symud o’r caeau, cyn i gontractwr arall godi ffens o amgylch un o’r caeau. Nawr bod y gwaith wedi’i gwblhau, bydd y caeau’n cael eu gadael i dyfu a bydd y gwair yn cael ei dorri ym mhob un ym mis Gorffennaf. Wedyn bydd merlod yn pori’r hyn sydd ar ôl yn ystod yr hydref. Mae’r lluniau’n dangos y contractwyr yn ymgymryd â’r gwaith.
E-bost Richard Jones