Mae Prosiect Canlyniadau a Rennir CNC wedi galluogi PONT i weithio gyda Grŵp Dolydd Gŵyr a phartneriaid eraill i dreialu gwahanol reolaeth ar ddolydd a gwrychoedd lleol. Fe wnaethom ni ddewis dull cyfannol o reoli dolydd.
Nod y prosiect oedd meithrin sgiliau perchnogion Grŵp Dolydd Gŵyr a phartneriaid eraill i ystyried sawl agwedd ar reoli glaswelltir i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus, cynaliadwy a hyblyg.
Roedd yn brosiect byr ac mae cyllid yn cael ei geisio nawr i ddatblygu i fod yn brosiect tymor hwy a all adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd a datblygu’r syniadau hyn ymhellach i gefnogi rheolaeth gynaliadwy wrth symud ymlaen.
Mae Penrhyn Gŵyr, De Cymru yn cynnwys cyfuniad o dir amaethyddol cynhyrchiol a Thir Comin yn bennaf. O ganlyniad i’r pridd ffrwythlon, bu tueddiad i gynhyrchu cymaint â phosibl ac felly ychydig o laswelltiroedd lled-naturiol sydd ar ôl.
Mae prosiect Dolydd Gŵyr yn dod â pherchnogion a rheolwyr glaswelltiroedd at ei gilydd i ddysgu a rheoli eu dolydd yn y ffordd fwyaf cynaliadwy. Ymhlith y partneriaid mae Grŵp Dolydd Gŵyr, CNC, YNDGC, Cyngor Abertawe, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfeillion Parciau Treforys, Cyfeillion Coed Dyffryn Clun a Fferm Gymunedol Abertawe, ymhlith eraill.

Cyllidir y prosiect gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Canlyniadau a Rennir.