Cynhaliodd y prosiect nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol i annog pobl i ddysgu am ddolydd a gwrychoedd, eu gwerth a sut i’w rheoli.

Dysgu am bridd

Mae Grŵp Dolydd Gŵyr wedi tanysgrifio Soil Mentor, ap sy’n helpu’r aelodau i asesu cyflwr pridd.

Derbyniodd yr aelodau sy’n berchnogion a rheolwyr dolydd hyfforddiant gan yr arbenigwr pridd Niels Corfield er mwyn defnyddio’r ap ac maent yn gallu cadw golwg ar gyflwr eu pridd wrth i’w dolydd ddatblygu. Mae hyn yn darparu gwybodaeth bwysig i helpu i reoli’r dolydd yn briodol ond mae’n ffactor sy’n cael ei anwybyddu yn aml.

Dyddiau gwirfoddoli

Gwahoddodd y Mycolegydd, Emma Williams, o Ffyngau Tomenni Glo, wirfoddolwyr i ddod draw i ddysgu am ffyngau’r glaswelltir a’r gwrychoedd a datblygu eu sgiliau arolygu.

Cynigiwyd dau ddiwrnod gwirfoddoli ac mae’r cofnodion a gasglwyd wedi cyfrannu at gofnodi’r ffwng parasiwt celyn prin mewn gwrych lleol, a gwelwyd bod un o’r glaswelltiroedd a arolygwyd yn bwysig yn genedlaethol ar gyfer ffyngau capiau cwyr.

Fe wnaeth gweithdy gwrychoedd marw yn Fferm Gymunedol Abertawe feithrin sgiliau defnyddiol cyfranogwyr wrth sicrhau bylchau yn ffiniau gwrychoedd a diogelu eginblanhigion newydd eu plannu.

Dysgu Pladurio

Darparodd Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru weithdy pladurio ar gyfer gwirfoddolwyr Grŵp Dolydd Gŵyr ar ddôl yn perthyn i un o aelodau’r grŵp. Roedd y sesiwn blasu yma’n gyfle i’r cyfranogwyr ddarganfod a fyddent yn hoffi defnyddio pladur fel dull o reoli ardaloedd bach o laswelltir fel dolydd.

Taith Tirwedd Hanesyddol

Cyflwynodd Helen Nicholas o Gower Unearthed aelodau’r grŵp dolydd i dirwedd hanesyddol Dolydd Priors, Three Crosses yn haf 2021. Dysgodd y grŵp am hanes yr ardal, yn amrywio o fwyngloddio i bropaganda Natsïaidd!