Adfer dolydd gan ddefnyddio moch brîd prin.

Roedd dôl fechan 0.2ha ger Bishopston wedi ildio’i lle i fieri a phrysgwydd oherwydd blynyddoedd lawer o esgeuluso.

Torrwyd y prysgwydd yn ôl gan ddefnyddio peiriant torri gwair, gan adael tir noeth. Cyflwynwyd moch i fwyta gwreiddiau’r mieri a sicrhau nad oedd y mieri’n ailsefyldu ar y ddôl.

Roedd y moch yn cael eu rheoli fel rhan o glwb moch cymunedol, gyda’r aelodau’n berchen ar gyfranddaliadau yn y moch ac yn gofalu amdanynt, gan gymryd cyfran yn y pen draw yn y porc moesegol o ansawdd uchel a gynhyrchwyd yn ystod y gwaith o adfer y ddôl. Dylai hadau o darddiad lleol wedi’u haredig i’r tir noeth gynhyrchu gwyndwn sy’n llawn rhywogaethau.

Awyriad y pridd.

Yn ystod profion pridd ar y dolydd, gwelwyd bod llawer o’r dolydd wedi dioddef o gywasgiad pridd a draeniad gwael. Defnyddiwyd holltwr pridd ar y dolydd i awyru’r pridd a gwella’r draeniad.

Mae hyn er mwyn lleihau rhai o’r rhywogaethau llai dymunol fel brwyn meddal, blodyn menyn ymlusgol a maswellt penwyn. Dylai cyflwr y pridd wella o ganlyniad a ffafrio gwyndwn sy’n fwy cyfoethog o ran rhywogaethau. Nid yw’r dull hwn mor ymledol â dulliau fel codi gwyndwn ac ni ddylai gael effaith niweidiol ar ffyngau’r glaswelltir

Pori gyda Merlod a Gwartheg

Mae dwy o’r dolydd ar swbstrad tywodlyd wedi newid dros amser, gan ddatblygu i fod yn debycach i laswelltir twyni a rhostir. Datgelodd profion ar gyflwr y pridd y lefel isel o ddeunydd organig sydd yn y pridd, mae’n debygol bod y glaswelltiroedd yn asideiddio wrth i’r calsiwm ddiferu o’r pridd tywodlyd.

Mae’r gwyndwn o ganlyniad yn llawn rhedyn gwenwynig ac felly nid yw o werth mawr fel gwair porthiant. Yn ystod y prosiect hwn fe wnaethom arbrofi gyda phori gyda gwartheg a merlod i ddechrau, ac wedyn torri a chasglu’r glaswelltau annymunol a adawyd ar ôl. Mae’r gostyngiad yn y deunydd wedi’i dorri’n golygu bod posib cael gwared arno ar y safle, mewn lleoliadau sy’n wynebu’r de i ddadelfennu. Mae’n gwneud safle dodwy wyau rhagorol i neidr y gwair. Bydd pori yn cyflwyno mwy o ddeunydd organig i’r pridd na’r drefn arferol o dorri a symud.

cattle grazing on Gower

Torri ar gyfer gwair neu silwair

Mae gwair neu silwair yn cael ei dorri ar laswelltir sydd â lefel uchel o faethynnau. Mae’r torri’n digwydd ddiwedd yr haf ac mae’n cael ei ddefnyddio fel porthiant ar gyfer da byw. Dros amser bydd y lefelau artiffisial o uchel o faethynnau, synthetig yn aml, yn y pridd yn gostwng wrth i ddeunydd gael ei symud. Dros amser bydd cyflwr y pridd yn dychwelyd i gydbwysedd a bydd y gronfa hadau naturiol yn mynegi ei hun.

Mae’r dull hwn yn llawer arafach nag ailhadu, ond bydd yn cynhyrchu gwyndwn sy’n frodorol i’r ardal honno ac yn diogelu amrywiaeth enetig yn y tymor hir.

Defnyddir da byw yn y dolydd hyn i bori’r aildyfiant (adladd), maent yn lleihau glaswelltau cystadleuol, yn sathru hadau i’r pridd ac yn cyflwyno tail i’r pridd. Maent yn rhan hanfodol o iechyd dolydd. Maent yn cael eu symud yn y gwanwyn i roi cyfle i’r dolydd dyfu a blodeuo.

Weithiau nid yw’n bosibl pori glaswelltiroedd, fel y rhai mewn parciau trefol neu ar hyd ymylon ffyrdd. Mae’r rhain yn cael eu torri a’u casglu neu eu torri a’u cribinio â llaw, ar ôl gadael i’r glaswelltir flodeuo a bwrw had. Bydd hyn, dros amser, yn galluogi i wyndwn sy’n llawn rhywogaethau ddatblygu.

Os yw’n bosibl, dylai dolydd gael eu torri’n flynyddol (neu debyg), ond mewn rhai achosion nid yw hyn yn bosibl. Gall pori yn y gaeaf gynnig ateb, ond dim ond gwartheg a cheffylau sy’n gallu lleihau’r gwyndwn yn ddigonol gan nad yw defaid yn gallu defnyddio’r coesyn marw a dail glaswelltau. Ni fydd hyn yn lleihau lefelau’r maethynnau yn y pridd ond bydd yn cael gwared ar y gwyndwn cystadleuol, gan roi cyfle i berlysiau dyfu y gwanwyn canlynol, ar ôl atal pori.

Gwrychoedd

Mae gan y Gŵyr rwydwaith cymhleth o wrychoedd o arwyddocâd hanesyddol. Maent yn hafan i fywyd gwyllt, yn dal a storio carbon ac yn darparu cysgod i dda byw a chynnal uwchbridd. Rydym wedi helpu i adfer rhai ohonynt. Mae’r gwrychoedd ar hyd llwybrau troed a ddefnyddir yn helaeth, un ar hyd y llwybr cerdded cenedlaethol poblogaidd, ‘Llwybr Gŵyr’. Mae gwrychoedd wedi’u plygu gan arbenigwyr lleol ar blygu gwrych yn yr arddull leol, ‘Flyer’ Gŵyr.