Yn ddiweddar, mae Pontcymru wedi cael gwybod bod cam cyntaf eu cais am grant Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy i Lywodraeth Cymru, fel rhan o Gronfa Datblygu Gwledig 2014-2020, wedi bod yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar y cais i gael ei gyflwyno ym mis Awst.
Mae’r prosiect, o’r enw Dolydd Dyfi Meadows, yn brosiect cydweithredol sy’n cysylltu gwell cyfoeth ac adnoddau naturiol ag iechyd a lles ym Miosffer Dyfi. Cyflawnir hyn drwy annog ymarfer a gweithgarwch yn yr awyr agored ar lwybrau mynediad a hybir drwy gynefin sydd wedi’i adfer.
Nod y prosiect hwn yw cysylltu pobl â natur drwy fuddsoddi mewn gwaith mynediad a hyrwyddo, a thrwy hynny annog pobl leol ac ymwelwyr i godi allan. Bydd angen buddsoddiad i sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr lleol, datblygu prosiectau celf a rhaglen “cerdded at iechyd”.
Mae glaswelltir lled-naturiol ar dir isel wedi dioddef colledion dramatig, gydag amcangyfrif o 91% o golled yng Nghymru (1930au-2000au), a dim ond darnau bychain o rostir tir isel a chorsydd sydd ar ôl. Bydd y prosiect hwn ar raddfa tirlun yn gwella cadernid a chysylltedd ecosystemau aberol a thir isel ym Miosffer Dyfi, drwy greu’r cynefin blodeuo atyniadol y mae pryfed peillio ac infertebrata eraill ei angen.
Bydd gwaith adfer cynefin yn digwydd ar fwy na 30 o safleoedd, sy’n gorchuddio mwy na 750 hectar o laswelltir, ffridd, cors fawn a thwyni tywod, a bydd yn cynnwys rheoli rhedyn, mieri ac eithin, ailgyflwyno pori, rheoli brwyn a dŵr, a gwaith i wella mynediad ar gyfer y cyhoedd. Ymhlith y rhywogaethau a fydd yn elwa mae’r bras melyn, cornchwiglod, y brith perlog bach, clychlys dail eiddew, ac ysgyfarnog.
Bydd swyddog a gaiff ei recriwtio, a gweithiwr dan hyfforddiant, yn cael eu cyflogi gan y prosiect. Bydd manteision ariannol i fusnesau fferm a chymunedau gwledig, gan gynnwys drwy gyflogi contractwyr lleol a manteision i dwristiaeth leol.
Am fwy o fanylion am y prosiect, cysylltwch â: Dick Squires , Swyddog Datblygu Pontcymru yng Nghanolbarth Cymru