Jenny Dingle – Arweinydd Teithiau Cerdded Cynnal a Chadw
Rydw i wedi arwain teithiau cerdded i Ddolau Dyfi dros y blynyddoedd diwethaf. Yn bennaf rydyn ni’n cynnal teithiau cerdded cynnal a chadw llwybrau, yn clirio mieri, prysgwydd a changhennau sy’n hongian yn isel o lwybrau cyhoeddus a llwybrau marchogaeth. Bu rhai teithiau cerdded gyda siaradwyr gwadd hefyd, sydd wedi siarad am y tir, y bobl a hanes y llefydd rydyn ni’n mynd iddyn nhw, a sesiwn neu ddau ar sgiliau map i annog pobl i godi allan i ddod o hyd i’w hawliau tramwy gan ddefnyddio map.
Rydw i wedi mwynhau’r grwpiau sy’n dod ar y teithiau cerdded hyn yn fawr iawn a rhyngom rydyn ni wedi agor milltiroedd o hawliau tramwy cyhoeddus a oedd wedi gordyfu yn flaenorol. Un o’r profiadau roddodd y mwyaf o bleser i mi oedd treulio ychydig oriau caled yn torri drwy lystyfiant i agor llwybr cyhoeddus anweledig ac amhosibl ei gerdded yn flaenorol; wrth i ni eistedd am ginio ar y diwedd, cerddodd criw heibio ar ôl dod o hyd i’r llwybr yn hawdd iawn, a heb gael unrhyw drafferth yn ei gerdded.
Rydw i’n frwd iawn dros gadw ein hawliau tramwy hanesyddol ar agor ac annog pobl i’w defnyddio. Rydw i hefyd yn poeni’n fawr am sicrhau cysylltiadau da rhwng y gymuned ffermio a phobl sy’n defnyddio’r hawliau tramwy ar gyfer hamdden. Mae gweithio i Ddolau Dyfi wedi bod yn wych yn hyn o beth oherwydd mae’r sefydliad wedi gallu cynnig helpu ffermwyr i gyflawni eu gofyniad i gadw hawliau tramwy ar agor ac mae’n dda i’n grŵp ni wybod bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn cael ei groesawu gan bawb.
Gweithgareddau gwirfoddolwyr
Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Chwefror 2023 cafodd 33 o ddyddiau gweithgarwch gan wir-foddolwyr eu cynnal gan Reolwr Gwirfoddolwyr Dolau Dyfi Rhodri Wigley gyda chyfartaledd o 3 o bobl ym mhob gweithgaredd.
Oherwydd Covid ni ddechreuodd y gweithgareddau gwirfoddoli tan y Gwanwyn yn 2021. Unwaith iddynt ddechrau roedd y nifer oedd yn bresennol yn amrywio rhwng 1 ac 8. Roedd grŵp craidd o wirfoddolwyr ymroddedig yn mynychu’n rheolaidd.
The work of the volunteers has been inspirational and included:
clirio llwybrau troed sydd wedi gordyfu’n arw,
codi waliau cerrig,
clirio rhedyn a phrysgwydd,
plygu gwrychoedd
ac adeiladu a gosod giât afon.
Digwyddodd rhywfaint o’r gweithgarwch ar ffermydd neu lwybrau mynediad yr oedd y prosiect yn gweithio arnynt; gwnaed gwaith arall ar safleoedd newydd fel mynwent neu ar ffermydd lleol lle’r oedd cyfleoedd ar gael i ddysgu sgiliau newydd.
Gobeithio bod y cyfleoedd a ddarparwyd gan y prosiect wedi helpu’r gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau yn ogystal â mwynhau ac elwa o’r gweithgareddau anffurfiol, cyfei
Proffil
Rhodri Wigley – Rheolwr Gwirfoddolwyr Dolau Dyfi
Rydw i wedi bod yn rheoli’r rhaglen gwirfoddolwyr ers mis Ebrill, ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi ailadeiladu llawer o fetrau o waliau cerrig, plygu gwrychoedd, agor llawer o lwybrau troed wedi gordyfu, adeiladu llifddorau a chlirio coed mewn mynwent er budd planhigion is a blodau.
Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda’r gwirfoddolwyr yn fawr a dod i adnabod pobl newydd yn ogystal â cheisio trosglwyddo fy ngwybodaeth am y sgiliau gwledig amrywiol iddyn nhw.
Mae’r adborth gan y gwirfoddolwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda llawer yn dweud bod y gwaith o fudd i’w lles meddyliol yn ogystal â’u lles corfforol.
Roedd y perchnogion tir bob amser yn ddiolchgar iawn am y gwaith a gwblhawyd ar eu tir.
Ar ôl bron i 20 mlynedd o roi cyngor i hybu, sefydlu a gwella’r rheolaeth ar bori ar gyfer bywyd gwyllt, mae PONT wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau ar ddiwedd mis Mawrth 2024.
Nid yw’r penderfyniad yma wedi cael ei wneud heb bwyso a mesur, ond mae’n ganlyniad anochel i’r sefyllfa economaidd bresennol, a diffyg cyllid grant tymor hir i gefnogi pori cadwraeth. Dros y 2 ddegawd diwethaf rydyn ni wedi gweithio gyda channoedd o berchnogion tir, porwyr a chadwraethwyr i ddod o hyd i atebion i broblemau pori sydd o fudd i fywyd gwyllt, ffermwyr a’r gymuned.
Rydyn ni wedi datblygu a darparu hyfforddiant i unigolion a sefydliadau, wedi arwain a chyfrannu at fentrau wedi’u cyllido gan grantiau ac wedi gweithio ar brosiectau arloesol fel cynlluniau “Taliadau am Ganlyniadau”.
Hoffem ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd.