Cynnal a Chadw Comins Coch

1 ½ milltir / 2 km o amgylch y comin ar lwybrau, traciau a’r ffordd fechan, dawel

Dewch o hyd iddo ar Fapiau OS

Rydym wedi ei fapio yn OS Maps – Commins Coch

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Dolau Dyfi wedi bod yn rhan o’r gwaith o agor a chynnal rhai o’r hawliau tramwy cyhoeddus o amgylch y pentref, gan gynnwys rhai llwybrau ar ochr ddeheuol yr afon a’r brif ffordd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau mynediad haws lle rydyn ni wedi clirio’r llystyfiant sy’n gordyfu. Rydyn ni hefyd wedi creu rhywfaint o gyfeirbwyntiau a ddylai fod o fudd i berchnogion y tir a cherddwyr.

Yn ddiweddar fe fuom yn gweithio ar y llwybr sy’n mynd o amgylch gwaelod y comin, yn rhannol ar hawliau tramwy cyhoeddus ac yn rhannol ar dir mynediad agored (lle rydyn ni hefyd yn cael cerdded). Mae hon yn daith gerdded bleserus heb ormod o elltydd. Os caiff ei cherdded yn rheolaidd dylai hyn gadw’r llystyfiant dan reolaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y gwanwyn pan fydd y rhedyn yn dechrau tyfu’n ôl. Byddem wrth ein bodd yn gweld mwy o bobl yn ei cherdded.

Tynnwyd lluniau’r mapiau gan Jenny Dingle