Cynnal a Chadw Melinbyrhedyn

Melinbyrhedyn ar hyd Afon Crewi i’r hen fwynglawdd plwm (3 milltir – 5km)

Melinbyrhedyn cy map

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Dolau Dyfi wedi bod yn ymwneud â chynnal a chadw’r llwybr troed cyhoeddus ar hyd afon Crewi o Felinbyrhedyn i’r hen fwyngloddiau plwm a thu hwnt i fyny’r trac i Roswydol. Rydyn ni wedi clirio llystyfiant oddi ar y llwybr, wedi creu camfa syml ac wedi gosod rhywfaint o gyfeirbwyntiau yn eu lle (a ddylai fod o fudd i berchnogion y tir a cherddwyr).

Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau mynediad haws ac yn defnyddio’r llwybr yma’n rheolaidd, a fydd yn help mawr i gadw’r llystyfiant rhag ymledu. Yn benodol, mae’r 2/3 km hanner milltir ychydig i lawr yr afon o’r mwynglawdd yn tyfu’n wyllt iawn gyda rhedyn, ond bydd hyn yn llai o broblem os bydd yn cael ei sathru, yn enwedig yn y gwanwyn pan fydd yn dechrau tyfu’n ôl.

Dewch o hyd iddo ar Fapiau OS

Rydym wedi ei fapio ar OS Maps Melinbyrhedyn