Un elfen hanfodol o’r prosiect oedd galluogi mwy o bobl i gael mynediad i gefn gwlad ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl.

Er mwyn cyflawni hyn, ymgymerodd y prosiect ag arolygon llwybrau mynediad fel sail i flaenoriaethau ar gyfer gweithredu.

Gweithiodd y prosiect i wella 11 llwybr. Yn bennaf roedd y gwaith hwn yn cynnwys gosod giatiau newydd yn eu lle, newid camfeydd am giatiau ger Machynlleth, newid camfeydd gan ychwanegu cliciedi atal stoc ac addas i farchogion, clirio prysgwydd, atgyweirio giatiau a gosod pyst giatiau newydd yn eu lle, gosod pont newydd yn ei lle a gwella arwyneb un llwybr

  • Cwblhaodd y prosiect waith ar yr hawliau tramwy cyhoeddus canlynol:
  • Yr ardal o amgylch Nant y Moch
  • 3 llwybr ger Talybont, Tre-Ddôl a Thaliesin
  • 2 lwybr o amgylch Machynlleth
  • Mach 2 – o Bandy Bach, Forge i Gleiriau Uchaf, Aberhosan
  • Aberangell i Aberllefenni gan stopio wrth y bont ychydig cyn Aberllefenni
  • Aberdyfi i Benal
  • Gwelliannau arwyneb yn Ffwrnais
  • Pont newydd yng Nghwmlline

Giatiau newydd wedi’u gosod yn eu lle gyda chliciedi atal stoc ac addas i farchogion

Gosodwyd 76 o giatiau cae newydd yn eu lle a 8 o giatiau Llwybr Marchogaeth newydd yn lle giatiau oedd wedi torri ac oedd yn anaddas i’w defnyddio gan y rhai oedd eisiau mynediad.

Fe wnaeth 7 o’r giatiau hunan-gau gymryd lle camfeydd ar lwybrau ger Machynlleth er mwyn gwella mynediad i fwy o bobl.

Cafodd llawer o giatiau eraill eu hatgyweirio a gosodwyd pyst newydd yn eu lle i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Gosodwyd cliciedi atal stoc ac addas i farchogion yn eu lle. Mae’r olaf yn golygu y gall pobl ar gefn ceffylau agor a chau giatiau heb ddod oddi ar eu ceffyl.

Camfeydd newydd wedi’u gosod ar lwybrau ger Talybont, Ceredigion

14 o gamfeydd dur wedi’i galfaneiddio wedi’u gosod yn lle camfeydd pren oedd wedi pydru ac wedi mynd yn beryglus.

Gosod pont newydd yn ei lle

Roedd y gwaith mynediad terfynol ar gyfer y prosiect yn help i newid pont yng Nghwmlline. Roedd y bont droed yng Nghwmlline wedi mynd yn beryglus ac yn debygol o gael ei chau. Byddai ei chau wedi atal pobl yn y pentref rhag cael mynediad uniongyrchol i lwybrau troed yr ochr arall i’r afon. Cyfrannodd prosiect Dolau Dyfi at gost pont newydd a osodwyd yn ei lle gan wirfoddolwyr Cyngor Powys, gyda rhai ohonynt wedi gwirfoddoli ar brosiect Dolau Dyfi. Talwyd gweddill y costau gan Gyngor Cymuned Glantwymyn.

Crëwyd ystod o daflenni teithiau cerdded gan Brosiect Dolau Dyfi

Bedd Taliesin

Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 1; Bedd Taliesin

Y cyntaf yn ein cyfres o deithiau cerdded – y llwybr i Fedd Taliesin, bedd Taliesin.

Taflen daith gerdded Borth Leri

Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 2: BORTH, DOLEN LERI

Taith gerdded bleserus, fflat a hawdd ei dilyn gyda golygfeydd gwefreiddiol dros aber afon Dyfi a’r môr.

Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 3: Dolen Cefn Erglodd

Taith gerdded ddiddorol i fyny ac ar hyd y bryn i’r De o’r A487. Mae dringfa serth drwy goetir derw ar y dechrau ac wedyn rhiw serth i lawr yn ôl. Ar ôl cyrraedd ymyl yr esgair, mae’r llwybr yn fwy gwastad ac agored gyda golygfeydd eang dros Dalybont, Taliesin ac aber afon Dyfi.

Talybont Dolen hir taflen

Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 4: Coed Talybont

This walk starts from Talybont on the ‘Borth to Devil’s Bridge’ trail, joins the ‘Wales Coast Path’ and then loops back to Talybont through the woods. If using the bus, the walk is a bit more straightforward and less strenuous if you start at Talybont and finish in Taliesin (there are regular buses between the villages).

Nant-y-Moch

Teithiau cerdded o gwmpas Mach