Prosiect Dolau Dyfi

Red Clover


Y BORDER BACH – OWEN SHIERS

Fel rhan o brosiect Dolau Dyfi, comisiynodd Ennyn gan gan y caneuwr gwerin Owen Shiers.

Mae Owen wedi gosod cerdd gan Crwys i gerddoriaeth gan greu can hynod o brydferth. Mae'r gerdd yn disgrifio gardd fach perlysiol oedd gan ei fam ac yn cynnwys nifer o gyfeiriadau ar wahanol blanhigion oedd y werin yn defnyddio er mwyn gwella ei hunain.

.

Gydag ymyl troetffordd gul
A rannai’r ardd yn ddwy,
‘Roedd gan fy mam ei border bach
O flodau perta’r plwy.

Gwreiddyn bach gan hwn a hon
Yn awr ac yn y man,
Fel yna’n ddigon syml y daeth
Yr Eden fach i’w rhan.

A, rywfodd, byddai lwc bob tro,
Ni wn i ddim paham,
Ond taerai ‘nhad na fethodd dim
A blannodd llaw fy mam.

Blodau syml pobol dlawd
Oeddynt, bron bob un,
A’r llysiau gwyrthiol berchid am
Eu lles yn fwy na’u llun.

Dacw nhw: y lili fach,
Mint a theim a mwsg,
Y safri fach a’r lafant pêr,
A llwyn o focs ynghwsg;

Dwy neu dair brlallen ffel,
A daffodil, bid siŵr,
A’r cyfan yn y border bach
Yng ngofal rhyw ‘hen ŵr’.

Dyna nhw’r gwerinaidd lu,
Heb un yn gwadu’i ach,
A gwelais wenyn gerddi’r plas
Ym mlodau’r border bach.

O bellter byd ‘rwy’n dod o hyd
I’w gweld dan haul a gwlith,
A briw i’m bron fu cael pwy ddydd
Heb gennad yn eu plith.

Hen estron gwyllt o ‘ddant y llew’,
A dirmyg lond ei wên.
Sut gwyddai’r hen doseddwr hy
Fod Mam yn mynd yn hen?

Owen Shires

“Mae natur yn ysbrydoli fy ngherddoriath. Mae'n rhywle rwy'n dianc i gael heddwch. Rhywle sy'n cynnig ei hun i'r dychymyg. Rhywle arallfydol sy'n wahanol i fywyd pob dydd.”

Owen Shiers
Owen Shires

Herb Robert


= Fflim / Film

= Sŵn / Sound

= Dro / Walk

= Blodau Gwyllt / Wildflowers

Cyflwyniad i Brosiect Dolau Dyfi

Mae glaswelltir lled-naturiol yr iseldir wedi dioddef colledion dramatig yr amcangyfrifir eu bod yn 97% yn y DU ers 1930. Mae gweddill y cynefin yn ddarniog ac mewn cyflwr gwael yn aml oherwydd diffyg rheolaeth, gan gynnwys pori priodol.

Aeth y prosiect hwn ati i weithredu yn lleol drwy gefnogi perchnogion tir a rheolwyr, gan gynnwys yr RSPB yn Ynys Hir, i helpu i wyrdroi’r dirywiad hwn ac adfer cynefinoedd blodeuo brodorol. Un elfen hanfodol o’r prosiect oedd ymgysylltu â chymunedau a chodi ymwybyddiaeth o werth diwylliannol, ecolegol a lles blodau gwyllt brodorol.

Mwy o Wybodaeth

Rheoli Cynefinoedd: Roedd y prosiect yn annog rheoli cynefinoedd ar gyfer planhigion blodeuo brodorol drwy fuddsoddi mewn seilwaith, a chynghori ar reolaeth i wella ac adfer dolydd a chynefinoedd eraill. Bu perchnogion a rheolwyr y ffermydd a’r tyddynnod yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’r prosiect ac maent wedi llofnodi cytundebau rheoli 5 mlynedd i barhau â’r gwaith ar ôl i’r prosiect ddod i ben.

Cynhaliwyd ymweliad maes llwyddiannus ar gyfer perchnogion dolydd yng Ngwarchodfa Ynys Hir yr RSPB ym mis Mawrth 2022 a gweithdy pladurio ar un o’r ffermydd ym mis Awst.

Ar gyfer y rhai sydd wrth eu bodd yn mynd allan ac edrych ar fyd natur, mae canllawiau adnabod ar gyfer blodau gwyllt brodorol a phryfed peillio i’w gweld ar y tudalennau rheoli tir.

Buddsoddodd prosiect Dolau Dyfi mewn llawer o weithgareddau i gysylltu pobl â’u hamgylchedd lleol, dysgu am flodau gwyllt brodorol a bod yn egnïol:

Cynhaliwyd teithiau cerdded a gweithgareddau iechyd mewn cydweithrediad â phrosiect Trywydd Iach. Roedd y teithiau cerdded yn cynnwys y canlynol:

  • Teithiau cerdded cynnal a chadw lle bu’r cyfranogwyr yn helpu i gynnal a chadw llwybrau troed wrth iddyn nhw gerdded, drwy dorri mieri a chasglu sbwriel.
  • Teithiau cerdded diwylliannol lle bu arbenigwyr lleol yn sôn am nodweddion lleol o arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol e.e. pwysigrwydd diwylliannol enwau llefydd Cymraeg.
  • Teithiau cerdded cymhorthfa a lles oedd yn cynnig cyfleoedd i bobl â phroblemau symudedd neu broblemau iechyd a lles eraill gael mynediad at deithiau cerdded byr gyda chefnogaeth drwy eu darparwr iechyd.

Roedd y prosiect hefyd wedi contractio Rheolwr Gwirfoddolwyr lleol i gynnal dyddiau gweithgarwch i wirfoddolwyr. Gwahoddwyd pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel Plygu Gwrychoedd a chodi waliau. Roedd y gweithgareddau’n gyfle i fynd allan i gefn gwlad, dysgu sgiliau newydd a chymdeithasu â gwirfoddolwyr eraill ac roeddem wir yn gwerthfawrogi cyfraniad y gwirfoddolwyr yn fawr iawn. Mae rhagor o wybodaeth a lluniau o’r teithiau cerdded a’r gweithgareddau gwirfoddol i’w gweld ar y tudalennau Iechyd a Lles.

Trefnwyd a chynhaliwyd rhaglen o weithgareddau Celf gan Gwmni Buddiannau Cymunedol lleol, Ennyn. Cynhaliwyd llawer o weithgareddau gydag ysgolion lleol gan gynnwys darlunio blodau gwyllt, teithiau tywys ac, yn ystod Covid, gweithdy celf ar-lein. Tua diwedd y prosiect cynhaliwyd gweithdy plannu blodau a bylbiau mewn cartref gofal lleol ym Machynlleth.

Cyfrannodd artistiaid a thrigolion lleol mewn amrywiol ffyrdd a chefnogwyd y digwyddiadau cymunedol gyda pherfformiadau byw a gafodd eu mwynhau gan bawb. Yn y Digwyddiad Dathlu cafwyd ymweliad arbennig iawn gan eifr Llaethdy Dyfi, oedd yn hynod boblogaidd.

Mae’r prosiect wedi creu digon o adnoddau i’w rhannu, ac mae pob un ohonynt ar gael ar y tudalennau gwe yma. Y prif adnoddau yw map rhyngweithiol, llyfr stori teithiau cerdded a ffilm hardd am yr ardal, wedi’u creu i gyd gan artistiaid, cerddorion a phlant ysgol sy’n byw ac yn gweithio yn lleol.

Gwnaed gwelliannau i lwybrau troed a llwybrau marchogaeth lleol. Buddsoddodd y prosiect mewn gosod giatiau newydd yn eu lle ar hawliau tramwy fel eu bod yn haws eu hagor, ac roedd hyn yn arbennig o bwysig ar y llwybrau marchogaeth. Cafwyd cefnogaeth wych gan berchnogion tir, gyda llawer ohonynt yn caniatáu gosod giatiau yn eu lle, yn lle camfeydd, a lle nad oedd hyn yn ymarferol, gosodwyd camfeydd dur wedi’u galfaneiddio yn lle’r hen gamfeydd pren, a fydd yn gryfach, yn fwy diogel ac yn para’n hirach.

Cynhyrchwyd pedwar canllaw cerdded hardd gan yr arweinydd teithiau cerdded Jenny Dingle ac maent i’w gweld ar y dudalen Gwella Mynediad. Fe welwch chi hefyd fapiau symlach sy’n dangos y llwybrau a gafodd eu gwella, gyda phob giât neu gamfa wedi’u nodi ar y mapiau.

Pwy oedd yn ymwneud â’r prosiect?

Arweiniodd Pori Natur a Threfadaeth (PONT) y prosiect a chyflogwyd swyddog prosiect, ond dim ond drwy help pawb a gymerodd ran y llwyddodd y prosiect i gyflawni ei uchelgais.

Roedd y partneriaid ffurfiol yn aelodau o’r Grŵp Llywio ac yn cyfrannu at arwain y prosiect a chefnogi’r cyflawni. Cafodd y grŵp hwn ei Gadeirio gan Bartneriaeth Ecodyfi. Roedd y partneriaid hyn yn cynnwys yr RSPB yn Ynys Hir, awdurdodau lleol Powys, Ceredigion a Gwynedd, Grŵp Llwybrau Marchogaeth Ceredigion, prosiect Trywydd Iach a CNC.

Mae llwyddiant y prosiect a’r cyfan mae wedi’i gyflawni wedi digwydd oherwydd cyfranogiad cadarnhaol a gweithgar llawer o bobl gan gynnwys: y perchnogion tir a’r rheolwyr, CBC Ennyn, yr Arweinwyr Cerdded ac aelodau’r grwpiau cerdded, y Rheolwr Gwirfoddolwyr a’r gwirfoddolwyr, yr holl artistiaid, cerddorion ac arbenigwyr lleol, yr athrawon ysgol a’r plant, staff a phreswylwyr y cartref gofal, contractwyr lleol a’r holl bobl eraill a gymerodd ran.

Y Cyllidwyr

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Dim ond oherwydd y cyllidwyr yr oedd hyn yn bosibl ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y buddsoddiad a wnaethant yn Nolau Dyfi.

Owen-Shiers-performance
Owen-Shiers-performance
Dolau Dyfi logo
Ennyn Logo
PONT logo
EAF logo