Dolau Dyfi project approaches to land management

Cyllidodd prosiect Dolau Dyfi waith ymarferol ar nifer o ffermydd a safleoedd preifat ac yng Ngwarchodfa Natur Ynys Hir yr RSPB i gefnogi rheolaeth er budd blodau gwyllt brodorol o fewn ystod amrywiol o gynefinoedd.

Mae’r gwaith a wnaed yn cynnwys rheoli rhedyn a phrysgwydd ond, yn hollbwysig, ar gyfer dyfodol hirdymor y cynefinoedd pwysig hyn, mae pori cadwraeth wedi’i alluogi.

Cyflawnwyd hyn drwy fuddsoddi yn y seilwaith a’r offer angenrheidiol a thrwy gyngor a llunio cytundebau rheoli 5 mlynedd gyda phob rheolwr tir.

Proffil

David Anning – Gwarchodfa Ynys Hir yr RSPB

Wrth edrych yn ôl dros y tair blynedd diwethaf, mae Dolau Dyfi wedi cyflawni cymaint yn RSPB Ynys-hir. Bu sawl prosiect fel adfer ffriddoedd, rheoli corsydd a chynnal a chadw gwlybdiroedd lle’r ydym wedi gallu defnyddio cyllid i wneud gwaith na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.

Mae’r prosiect wedi ein galluogi i ddatblygu ein gwaith cadwraeth mewn ardaloedd lle’r ydym wedi cael anhawster i wneud gwaith o’r blaen.

Gan weithio gyda phartneriaid eraill mae wedi bod yn wych gweld gwaith yn digwydd ledled y cwm. Mae hyn wedi hybu balchder yn ein hardal leol ac wedi galluogi perchnogion tir lleol i gyflawni rheolaeth bwysig.

Mae hefyd wedi annog ac ysbrydoli pobl leol i fwynhau’r mannau ysblennydd o’u cwmpas.Gwaith ar 414 o hectarau o Warchodfa Natur Ynys Hir yr RSPB

Gwarchodfa Ynys Hir yr RSPB 

Gwaith ar 414 o hectarau o Warchodfa Natur Ynys Hir yr RSPB  

  • Wedi gweithio ar 8 ardal o fewn y warchodfa
  • Cynefinoedd: Ffridd, glaswelltir gwlyb ac asid, iseldir gwlyb gyda gwely cyrs
  • Glaswelltir gwlyb yr iseldir, glaswelltir asid a gorgors
  • Clirio prysgwydd, bedw a chonwydd er budd gorgors
  • Rheoli rhedyn
  • Cyflwyno gweithdrefnau pori newydd
  • Seilwaith newydd ar gyfer pori
  • Ffens ysglyfaethwyr wedi’i chyflwyno i ddiogelu’r gornchwiglen sy’n magu
  • Prynwyd 4 x coler Nofence i wartheg er mwyn ehangu pori cadwraeth
Coch cyn cael gwared ar fedw Rhagfyr 2020
Coch cyn cael gwared ar fedw Rhagfyr 2020
Yr olygfa ar ôl y gwaith cael gwared ar fedw ym mis Ionawr 2021.
Yr olygfa ar ôl y gwaith cael gwared ar fedw ym mis Ionawr 2021.

Safleoedd preifat a ffermydd  

20 o safleoedd preifat a ffermydd – wedi gweithio ar 108 o hectarau.

  • Cynefinoedd Glaswelltiroedd corsiog, asid sych a niwtral, gwlybdir, ffridd
  • Gweithio ar 2 Gwrs Golff a 18 o ffermydd preifat
  • 2225 metr o ffensys newydd
  • 1145 metr o ffensys wedi’u hatgyweirio
  • 5 cafn dŵr
  • 3 corlan da byw
  • 1 trac mynediad i fynd â da byw i rostir
  • 1 adfer pwll
  • Rheoli rhedyn
  • Clirio prysgwydd, bedw a rhododendron
  • Newid y drefn o dorri’r gwair
  • Ffensys trydan wedi’u prynu a’u prydlesu i berchnogion tir ar gyfer cadwraeth
  • Ffensys trydan wedi’u prynu a’u prydlesu i berchnogion tir ar gyfer cadwraeth
  • 20 o gytundebau rheoli 5 mlynedd wedi’u llofnodi
  • Llawer o frwdfrydedd ac ymrwymiad gan bawb a gymerodd ran
  • Ymunodd 1 fferm â chynllun cadwraeth newydd yn ddiweddar a sawl fferm arall â diddordeb mewn prosiectau cadwraeth yn y dyfodol
  • Llofnododd 1 SoDdGA Gytundeb Adran 16 i barhau i reoli blodau gwyllt brodorol

Clwb Golff Ynyslas a Borth

Cyn: Torri’n rheolaidd yn y gwanwyn a’r haf Lluniau diolch i Candace Browne
Cyn: Torri’n rheolaidd yn y gwanwyn a’r haf Lluniau diolch i Candace Browne
Ar ôl: Torri a chasglu unwaith ar ddiwedd y tymor Lluniau diolch i Candace Browne
Ar ôl: Torri a chasglu unwaith ar ddiwedd y tymor Lluniau diolch i Candace Browne