Dennis Matheson

Dechreuais ffermio ar fferm organig gymysg yn Iwerddon yn 1962. Ar ôl bod yn y Brifysgol, symudais i Awstralia gan dreulio 18 mis yn gweithio ar orsafoedd defaid a gwartheg a chynaeafu gwenith. Wedyn treuliais chwe blynedd gyda chwmni archwilio mwynau ac roeddwn yn gyfrifol am drafod iawndal i berchnogion tir. Yn 1974, dychwelais i’r DU i redeg dwy fferm laeth yng Ngogledd Cymru. Yn 1982, cefais fy ngwneud yn bartner mewn fferm denant gyda da byw, o dan yr un berchnogaeth ar y Gororau yng Nghymru â lle rwyf nawr fel unig fasnachwr ar 737 o erwau sy’n cyrraedd hyd at 1100 o droedfeddi.

Rwyf yn gadwriaethwr brwd ac rwyf wedi cymryd rhan yng nghynllun Tir Gofal ac, yn ddiweddar, cymerais ran mewn astudiaeth fawr gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain o Gorhedydd y Waun. Yn 2011, cefais fy mhenodi’n Gadeirydd Cymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru ac rwyf yn teimlo’n angerddol dros sicrhau bod ffermwyr tenant yn gallu cael cyngor da a bod ganddynt lais cryf yn Llywodraeth Cymru.

Dennis Matheson