
Prosiect Gwella Bioamrywiaeth Comin Coity Wallia
Astudiaeth achos o bori tir comin er budd bioamrywiaeth a chymunedau
Codi ymwybyddiaeth o broblemau drwy addysgu a gweithio gyda’r gymuned.
Gwella cynefinoedd blaenoriaeth gyda phwyslais arbennig ar y gardwenynen feinlais, y brith brown a brith y gors.
Cyfrannu at yr economi leol.
Prosiect Gwella Bioamrywiaeth Comin Coity Wallia oedd Prif Brosiect Dyfarniad Biffa yn 2010.
Prif nod y prosiect oedd adfer ac ailgysylltu 1,063 o hectarau o gynefinoedd blaenoriaeth ar diroedd comin Cefn Hirgoed a Mynydd y Gaer i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr.
Gyda phwyslais penodol ar reoli er budd Brith y Gors, y Brith Brown, Criciedyn Hirgorn y Gors a’r Gardwenynen Feinlais.
Mae Comin Coity Wallia’n agos at Ben-y-bont ar Ogwr ac mae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol i’w weld yno.
Partneriaid y Prosiect
Cymdeithas Cominwyr Coity Wallia, Cadwraethwyr Comin Coity Wallia, Dunraven Estates, Cyfoeth Naturiol Cymru, Rockwool, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru, Cymdeithas Green Lane, Treadlightly, Cadwch Gymru’n Daclus, Fly Tipping Action Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Butterfly Conservation, Ymddiriedolaeth ARC, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Ymddiriedolaeth John Muir, SEWBReC, CoedCymru
Manteision Cymunedol
Nod y prosiect oedd annog y gymuned leol i ymddiddori mewn bywyd gwyllt ac arferion amaethyddol ar y comin. Hybodd well dealltwriaeth o’r problemau a’r goblygiadau sy’n effeithio ar y comin mewn ymdrech i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig gyrru anghyfreithlon ar y tir comin, taflu sbwriel yn anghyfreithlon a chynnau tân yn fwriadol.
- Taflenni gwybodaeth a gwefan wedi’u cynhyrchu
- Gwybodaeth ar y safle
- Llwybrau cerdded gyda chyfeirbyst wedi’u sefydlu
- Pecynnau addysgol wedi’u creu ar gyfer ysgolion
- Ymweliadau gan ysgolion yn cyflwyno a chynnal Dyfarniad John Muir
- Wedi mynychu sioeau a charnifalau lleol
- Goruchwylio gyda Heddlu De Cymru a gweithredu ymgyrch posteri
- Cynllun llosgi mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Cominwyr a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Teithiau tywys, cyrsiau byr a sgyrsiau wedi’u cyflwyno gan swyddog y prosiect ac arbenigwyr lleol
- Dyddiau tasgau i wirfoddolwyr
Manteision Economaidd
Gwnaed ymdrechion i annog porwyr lleol i ddefnyddio’r comin fel rhan o fenter eu fferm. Mae gan y prosiect fanteision i economi’r ardal leol.
- Defnyddiwyd contractwyr lleol i gynnal gwaith y prosiect
- Cafwyd deunydd ac offer o ffynonellau lleol
- Gwybodaeth a chyhoeddusrwydd wedi gwella twristiaeth yn yr ardal leol
- Cynllun prydlesu gwartheg wedi annog sefydlu buches newydd o wartheg cochion Gogledd Dyfnaint
- Wedi darparu peiriannau i Gymdeithas y Cominwyr eu defnyddio i reoli’r cynefinoedd er lles bioamrywiaeth ac amaethyddiaeth gynaliadwy
Manteision Cyfoeth Naturiol
Mae’r prosiect wedi elwa o’r amgylchedd naturiol drwy wella amodau i fywyd gwyllt, ansawdd dŵr a rheolaeth a mynediad i’r cyhoedd.
- Gwellt y gweunydd a brwyn. Mae’r ardaloedd llawn pabwyr ar dir yr hen lo brig wedi cael eu trin drwy sychu’r chwyn gyda glyffosad (130 hectar) ac wedyn torri. Cafodd ardaloedd o wellt y gweunydd a brwyn trwchus eu torri a’u casglu (83 hectar).
- Cafodd prysgwydd bedw a helyg (7 hectar) eu clirio i adfer y borfa o ros. Targedwyd rhywogaethau estron ymledol – cafodd y Ffromlys Chwarennog (5 hectar) ei docio, torrwyd y llwyni a chafodd ei dynnu gyda llaw gan wirfoddolwyr.
- Mae coetir derw yn yr ucheldir (66 hectar) wedi cael ei reoli drwy deneuo’r top, teneuo cyffredinol a modrwyo’r rhisgl, er mwyn creu bylchau yn y canopi a gadael pren marw yn sefyll ac ar lawr. Cafodd y llwybrau troed eu cynnal a’u cadw a gosodwyd arwyddion arnynt.
- Cafodd y rhedyn ei reoli drwy rolio 189 hectar o lethrau wedi’u gorchuddio â rhedyn a 251 hectar o redyn gwastad a gwasgarog.
- Bugeilio’r da byw a dosbarthu blociau mwynau i gadw da byw yn y mannau a ddymunir. Yn enwedig ar ôl triniaeth fecanyddol.
- Adeiladwyd pum gwâl i ddyfrgwn o foncyffion a chynhaliwyd arolygon ar ddyfrgwn.
- 22 o byllau a gwalau wedi’u creu neu eu hadfer.
- Hadu dôl o flodau gwyllt (3.2 hectar), plannu eginblanhigion a thorri’r gwair yn hwyr yn flynyddol.
- Gwelliant mewn cofnodion biolegol a sefydlu monitro tymor hir.
- Dychweliad cornchwiglen yn magu – am y tro cyntaf ers 1989!