Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn

Mae Partneriaeth Anifeiliaid Pori Ynys Môn (PAPYM) yn gynllun pori lleol sy’n gweithio i gysylltu tir o fudd i fywyd gwyllt a chadwraeth gyda phorwyr a ffermwyr a all gyflenwi stoc pori addas er budd bywyd gwyllt, y tirlun a threftadaeth ddiwylliannol Ynys Môn.


Sefydlwyd PAPYM yn 2008 ac mae wedi cyflwyno a chefnogi pori ar 16 o safleoedd ledled Ynys Môn, ar gyfanswm o fwy na 300 o hectarau. Gallwn helpu ffermwyr, sefydliadau a pherchnogion tir i sefydlu pori cynaliadwy ar safleoedd sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt ar Ynys Môn.

Mae cynnyrch o safleoedd sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt yn cael ei werthu dan safon ansawdd PAPYM i farchnadoedd lleol ac yn Llundain. Cefnogir ffermwyr a chynhyrchwyr drwy gynllun marchnata PAPYM o’r cae i’r plât. Mae’r cynnyrch yn cael ei eni a’i fagu ar y fferm, mae’n pori er budd bywyd gwyllt, yn cael porthiant o ffynhonnell leol ac yn cael ei baratoi ar gyfer ei werthu ar yr ynys.

Partneriaid y Prosiect


Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB, Cyngor Ynys Môn, Glynllifon, Menter Môn, Coleg Menai, Undeb Amaethwyr Cymru, FWAG, Cronfa Datblygiad Cynaliadwy Ynys Môn, Cronfa Gweithredu Bioamrywiaeth WREN, Sefydliad Esmee Fairbairn, Pŵer Niwclear Horizon

Manteision Cymunedol


Mae dau nod i weithio â’r gymuned. Y cyntaf yw annog cymunedau lleol ac ymwelwyr i ymddiddori ym mywyd gwyllt tirluniau ffermio Ynys Môn ac annog ymwneud gweithredol â hwy. Yr ail yw addysgu’r cyhoedd am arferion ffermio. Gall hyn helpu i ddatrys problemau posib, fel gwrthdaro rhwng pobl a da byw, ac mae’n arwain at well dealltwriaeth a mwynhad o gefn gwlad.

  • Ymgynghoriad cymunedol yng Nghaergybi i roi sylw i bryderon am gyflwyno pori
  • Sioe gŵn PAPYM sy’n helpu pobl i ddeall sut i ymddwyn pan maent allan gyda’u ci a sut i gerdded yng nghanol anifeiliaid yn pori.
  • Digwyddiad cneifio, gwehyddu a nyddu ar Ynys Lawd gan yr RSPB, yn gysylltiedig â’r cynllun pori a fugeilir.
  • Nawdd blynyddol i’r dosbarthiadau Gwartheg Duon yn Sioeau Môn – gaeaf a haf.
  • Digwyddiadau 'Springwatch' ar Ynys Lawd gan yr RSPB yn 2010, 2011 a 2013.
  • Digwyddiadau dolydd gwair ym Mhlas Newydd, Penllyn a Chors Goch.

Manteision Economaidd


Mae’r bartneriaeth yn credu bod sicrhau manteision economaidd i berchnogion tir yn hanfodol i sicrhau rheolaeth barhaus ar dir ymylol er lles bywyd gwyllt.

  • Datblygu cynllun marchnata cynnyrch a brandio cynnyrch lleol
  • Hyfforddiant sgiliau mewn gwaith cigydd, hylendid a marchnata, gan roi cyfle i ffermwyr farchnata eu stoc yn fwy effeithlon.
  • Datblygu gwely rhostir fel opsiwn rhatach na gwellt ar gyfer da byw dan do. Mae’r deunydd yn gynnyrch rheoli rhostir a gellir ei ddefnyddio fel tail ar ôl ei ddefnyddio.
  • Adfer tir sy’n cael ei danreoli i ddod yn rhan o’r system ffermio
  • Prydlesu da byw i annog ffermwyr i roi cynnig ar stoc newydd cyn ymrwymo i’r prynu

Manteision Cyfoeth Naturiol


Mae partneriaeth PAPYM wedi sicrhau gwelliannau ar y tir sydd o fudd i fywyd gwyllt, i reoli dŵr, i’r seilwaith gwledig ac i fynediad i’r cyhoedd.

  • Pori wedi’i sefydlu neu ei wella ar 843 hectar o gynefinoedd sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt
  • Gosod corlannau, cafnau dŵr, ffensys a phontydd stoc yn eu lle, i ganiatáu rheolaeth tymor hir ar safleoedd
  • Manteision hamdden a thwristiaeth drwy wella’r rheolaeth ar lethrau’r arfordir a Llwybr Arfordir Cymru
  • Rheoli 14 safle tir gwlyb, gan helpu i gynnal llif ac ansawdd y dŵr
  • Creu 7 pwll ar bedair fferm
  • 45 hectar o reoli prysgwydd a rhedyn yn fecanyddol ac 82 hectar o reoli pabwyr cyn gwella’r pori
  • Sefydlu cynllun pori a fugeilir yn fanwl ar rostir 200 hectar