Mae Taith Addysgol Prosiect Bernie yn rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol GTADC sy’n ceisio lleihau nifer y tanau glaswellt bwriadol drwy newid agwedd, gwybodaeth ac ymddygiad pobl. Yr arwyddair ydi ‘Grass is Green – Fire is Mean.’ Mae Bernie yn frand cyfarwydd sy’n cael ei ddefnyddio gan GTADC a rhanddeiliaid eraill er mwyn cyflwyno negeseuon cyffredin ledled yr ardal.
Gan weithio gyda GTADC, mae PONT wedi mynd â neges Pori yn Rhagori allan at gynulleidfaoedd newydd. Drwy ymweld ag 11 o ysgolion ar Daith Addysgol Prosiect Bernie, mae plant wedi cael cyfle i ddysgu am sut mae anifeiliaid pori mewn perygl pan mae pobl yn cynnau tân ar ochr y mynydd. Mae’r plant yn mynd â’r neges adref ac felly mae rhieni hefyd yn dysgu am effaith ddinistriol tanau glaswellt ar dda byw a bywyd gwyllt. Aeth PONT â dau oen llywaeth i’r ysgolion i blant gael gweld anifeiliaid go iawn a’u bwydo gyda photel am y tro cyntaf.
Mae PONT yn parhau i weithio gyda GTADC, gan gynnwys cydweithio yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ac ymuno â Grŵp Tanau Bwriadol Cymru.
Partneriaid y Prosiect
Fenter Marchnata Cymdeithasol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC)
Manteision Cymunedol
Mae PONT yn gweithio’n galed i hwyluso ac annog pori cynefinoedd lled-naturiol er budd natur ond hefyd fel ffordd i roi sylw i broblemau eraill mae pobl yn eu hwynebu.
Mae tanau glaswellt dwys ac eang yn rhoi cymunedau mewn perygl ac yn bygwth sawl agwedd ar fywydau pobl. Gwelodd PONT a GTADC gyfle i gyflwyno neges ar y cyd ac felly daethant at ei gilydd i greu neges bwysig am beryglon tanau gwyllt i blant ysgol lleol.
Gwnaed hyn fel rhan o Daith Addysgol Prosiect Bernie. Mae gweithio gyda GTADC wedi bod yn hynod fuddiol gan fod y staff wedi gallu rhannu gwybodaeth, profiad a brwdfrydedd yn ogystal â helpu ei gilydd i fynd â’u negeseuon i gynulleidfaoedd newydd.
- Array
Manteision Economaidd
Rhaid i GTADC fynd i’r afael â’r tanau glaswellt bwriadol sy’n gallu bygwyth bywydau yn Ne Cymru a byddai PONT yn hoffi gweld pori cynyddol ar rai cynefinoedd risg uchel er mwyn gwella bioamrywiaeth, treftadaeth a thirlun.
Drwy weithio gyda GTADC maent wedi gallu dyblu eu hymdrechion i roi sylw i achos y tanau hyn drwy negeseuon ar y cyd. Gall cyflwyno pori leihau llwyth y tân ac felly pan gaiff tân ei gynnau, mae’n llai tebygol o ledaenu. Hefyd mae da byw a phobl yn tueddu i atal y rhai sy’n mynd ati i losgi’n fwriadol.
Mae manteision economaidd yn codi o atal difrod a hefyd drwy agor ardaloedd newydd ar gyfer defnydd hamdden o bosib. Yn gyffredinol, mae tir sydd wedi’i esgeuluso’n flaenorol ond sy’n cael ei reoli unwaith eto bellach yn fwy atyniadol i amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr, gyda fflora a ffawna mwy amrywiol.
- Array
Manteision Cyfoeth Naturiol
Mae PONT yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd pori er mwyn lleihau’r risg o danau glaswellt ac felly’r bygythiad i dda byw, bywyd gwyllt a hefyd priddoedd, dŵr a gwasanaethau ecosystemau eraill. Ychwanegwch at hyn werth pori cadwraeth fel adnodd rheoli cynaliadwy ac mae’r manteision sylweddol o weithio ar y cyd yn dod yn amlwg.
Mae gweithio gyda GTADC yn helpu i gyflwyno neges pori yn rhagori. Mae mynd â’n neges ar y cyd allan i gymunedau mewn ffordd ymarferol yn helpu i hybu pori gan dda byw fel mesur positif. Y nod yw lleihau’r risg o danau glaswellt bwriadol a hefyd helpu natur i ffynnu a gwella agweddau eraill ar yr amgylchedd, fel ansawdd pridd a dŵr.
- Array