Cwrs Hyfforddi Archwilwyr Da Byw
08/08/2018 9:00 - 08/08/2018 16:00
£50.00
Fyddech chi’n hoffi helpu i ofalu am Warchodfa Natur Genedlaethol Oxwich? Dyma’r cwrs perffaith i chi efallai! Mae pori cadwraeth yn hanfodol i gadw ein tirwedd ni’n hardd ac yn llawn bywyd gwyllt. Rydyn ni’n dibynnu ar ferlod, gwartheg a defaid i bori ein hardaloedd ni sydd â chyfoeth o fyd natur ac weithiau mae’r llefydd hyn yn anghysbell a dim ond ar lwybr troed y gellir mynd iddyn nhw. Mae ffermwyr a phorwyr angen pobl leol i’w helpu i gadw llygad ar eu da byw. Fyddech chi’n hoffi dysgu sgiliau archwilio da byw sylfaenol er mwyn gallu helpu? Mae PONT yn cynnal cwrs hyfforddi wedi’i achredu gan LANTRA yn Neuadd Gymunedol Oxwich a Phen-rhys ddydd Mercher 8fed Awst 2018 (9am-4pm). Mae’r cwrs am ddim i drigolion Penrhyn Gŵyr ond cofiwch archebu eich lle yn www.pontcymru.org/training-events/. Cysylltwch ag Emma Douglas – Swyddog Datblygu Rhanbarthol PONT yn Ne Cymru – ar 07579 008578 neu emma.douglas@pontcymru.org. Archebu’n hanfodol. Neilltuir pob lle ar sail y cyntaf i’r felin. Fyddech chi’n hoffi helpu i ofalu am Warchodfa Natur Genedlaethol Oxwich? Dyma’r cwrs perffaith i chi efallai! Mae pori cadwraeth yn hanfodol i gadw ein tirwedd ni’n hardd ac yn llawn bywyd gwyllt. Rydyn ni’n dibynnu ar ferlod, gwartheg a defaid i bori ein hardaloedd ni sydd â chyfoeth o fyd natur ac weithiau mae’r llefydd hyn yn anghysbell a dim ond ar lwybr troed y gellir mynd iddyn nhw. Mae ffermwyr a phorwyr angen pobl leol i’w helpu i gadw llygad ar eu da byw. Fyddech chi’n hoffi dysgu sgiliau archwilio da byw sylfaenol er mwyn gallu helpu? Mae PONT yn cynnal cwrs hyfforddi wedi’i achredu gan LANTRA yn Neuadd Gymunedol Oxwich a Phen-rhys ddydd Mercher 8fed Awst 2018 (9am-4pm). Mae’r cwrs am ddim i drigolion Penrhyn Gŵyr ond cofiwch archebu eich lle yn www.pontcymru.org/training-events/. Cysylltwch ag Emma Douglas – Swyddog Datblygu Rhanbarthol PONT yn Ne Cymru – ar 07579 008578 neu emma.douglas@pontcymru.org. Archebu’n hanfodol. Neilltuir pob lle ar sail y cyntaf i’r felin. Cyswllt: Emma Douglas