Adfer Gorgors Penaran

Ardal 220 hectar o SoDdGA ac ACA cyforgors uwchdirol yw Penaran, rhwng Dolgellau a’r Bala yng Ngwynedd.  Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n berchen arni ac yn ei rheoli ac, mewn partneriaeth ag RSPB, bu’n cynnal prosiect adfer cynefin helaeth ar y safle. Mae’n hanfodol pori’r safle hwn yn gywir i atal llystyfiant rhag tyfu’n rhy drwchus, ac i annog rhywogaethau pwysig o flodau gwyllt a mwsoglau. Roedd yn anodd dod o hyd i ffermwyr lleol i bori’r safle, gan ei fod mor wlyb ac anghysbell.

 

Gyda chyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, llwyddodd PONT i brynu gre o ferlod Carneddau a gosod system trin merlod i hwyluso eu casglu a gwneud archwiliadau lles. Erbyn hyn, bu’r merlod yn pori’r safle’n llwyddiannus ers blwyddyn, a ffermwr lleol yn ymweld yn rheolaidd i sicrhau eu lles.