Taith gerdded bleserus, fflat a hawdd ei dilyn gyda golygfeydd gwefreiddiol dros aber afon
Dyfi a’r môr.
Ar ôl bron i 20 mlynedd o roi cyngor i hybu, sefydlu a gwella’r rheolaeth ar bori ar gyfer bywyd gwyllt, mae PONT wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau ar ddiwedd mis Mawrth 2024.
Nid yw’r penderfyniad yma wedi cael ei wneud heb bwyso a mesur, ond mae’n ganlyniad anochel i’r sefyllfa economaidd bresennol, a diffyg cyllid grant tymor hir i gefnogi pori cadwraeth. Dros y 2 ddegawd diwethaf rydyn ni wedi gweithio gyda channoedd o berchnogion tir, porwyr a chadwraethwyr i ddod o hyd i atebion i broblemau pori sydd o fudd i fywyd gwyllt, ffermwyr a’r gymuned.
Rydyn ni wedi datblygu a darparu hyfforddiant i unigolion a sefydliadau, wedi arwain a chyfrannu at fentrau wedi’u cyllido gan grantiau ac wedi gweithio ar brosiectau arloesol fel cynlluniau “Taliadau am Ganlyniadau”.
Hoffem ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd.