Dolau Dyfi Canllaw Cerdded 3: Dolen Cefn Erglodd

Taith gerdded ddiddorol i fyny ac ar hyd y bryn i’r De o’r A487. Mae dringfa serth drwy goetir derw ar y dechrau ac wedyn rhiw serth i lawr yn ôl. Ar ôl cyrraedd ymyl yr esgair, mae’r llwybr yn fwy gwastad ac agored gyda golygfeydd eang dros Dalybont, Taliesin ac aber afon Dyfi.