Taith gerdded gan gadw pellter cymdeithasol – Llyn Barfog, Aberdyfi

05/12/2020 10:00 - 05/12/2020 14:30

£0.00

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl sy’n dymuno magu hyder wrth ddefnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans i gynllunio teithiau cerdded a chanfod eu ffordd wrth gerdded yn yr awyr agored. Mae mapiau O.S. yn cynnwys gwybodaeth ryfeddol a all fod yn hwyl i’w datrys ac sy’n ei gwneud yn bosib i unrhyw un gynllunio taith gerdded dda heb i unrhyw un arall ei dangos yn gyntaf. Arweinir y gweithdy gan Jenny Dingle (Tystysgrif Arweinyddiaeth Mynydd, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored). Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl sy’n dymuno magu hyder wrth ddefnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans i gynllunio teithiau cerdded a chanfod eu ffordd wrth gerdded yn yr awyr agored. Mae mapiau O.S. yn cynnwys gwybodaeth ryfeddol a all fod yn hwyl i’w datrys ac sy’n ei gwneud yn bosib i unrhyw un gynllunio taith gerdded dda heb i unrhyw un arall ei dangos yn gyntaf. Arweinir y gweithdy gan Jenny Dingle (Tystysgrif Arweinyddiaeth Mynydd, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored).

Taith gerdded gan gadw pellter cymdeithasol – Llyn Barfog, Aberdyfi
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr 10.00 a.m. – 2.30 p.m.

Mae’r daith gerdded yma ychydig yn serth mewn mannau ac yn arw / mwdlyd dan draed ond bydd y cyflymder yn ystyried anghenion y grŵp i gyd – ni fydd angen brysio. Rydym wedi meddwl yn ofalus am wneud y gweithgaredd yma mor ddiogel â phosib o ran Covid ond wrth gwrs ni allwn ddileu pob risg. Bydd wyth lle: gall un person neu un 'swigen gymdeithasol' o ddau o bobl (fel y disgrifir yng nghanllawiau'r llywodraeth) gymryd pob lle.
Comisiynir y daith gerdded gan Brosiect Dolau Dyfi. Mae'r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae sawl nod:
•Cerdded (gan gadw pellter cymdeithasol) a mwynhau cefn gwlad gyda'n gilydd.
•Dangos taith gerdded dda yn Nyffryn Dyfi.
•Dysgu ychydig am chwedlau lleol a hanes byd natur.

Am y daith – Byddwn yn dringo at Lyn Barfog (mae sawl stori am y lle arbennig yma), yn ymweld â’r ‘atsain’, yn edrych ar Garn March Arthur (ôl troed carn ceffyl Arthur yn y graig) ac wedyn yn cerdded ar hyd yr esgair gyda golygfeydd godidog i lawr am aber afon Dyfi a hefyd ‘Happy Valley’.
Pellter a gwaith dringo - 7 km (4 ½ milltir) gyda thua 200m o ddringo.
Arweinwyr – Jenny Dingle (MLC, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored) a Jane Rigby (BEL, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored)

ARCHEBU'N HANFODOL (er mwyn sicrhau arfer diogel o ran Covid)
I GAEL RHAGOR O WYBODAETH NEU I ARCHEBU, CYSYLLTWCH Â: jennydingle@gmail.com
Llyn Barfog, Aberdyfi