Taith gerdded fer gan gadw pellter cymdeithasol gyda chlirio llwybrau troed o Felinbyrhedyn (ger Machynlleth)

£0.00

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl sy’n dymuno magu hyder wrth ddefnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans i gynllunio teithiau cerdded a chanfod eu ffordd wrth gerdded yn yr awyr agored. Mae mapiau O.S. yn cynnwys gwybodaeth ryfeddol a all fod yn hwyl i’w datrys ac sy’n ei gwneud yn bosib i unrhyw un gynllunio taith gerdded dda heb i unrhyw un arall ei dangos yn gyntaf. Arweinir y gweithdy gan Jenny Dingle (Tystysgrif Arweinyddiaeth Mynydd, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored). Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl sy’n dymuno magu hyder wrth ddefnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans i gynllunio teithiau cerdded a chanfod eu ffordd wrth gerdded yn yr awyr agored. Mae mapiau O.S. yn cynnwys gwybodaeth ryfeddol a all fod yn hwyl i’w datrys ac sy’n ei gwneud yn bosib i unrhyw un gynllunio taith gerdded dda heb i unrhyw un arall ei dangos yn gyntaf. Arweinir y gweithdy gan Jenny Dingle (Tystysgrif Arweinyddiaeth Mynydd, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored).

Dydd Sul 22 Tachwedd, 10.30 a.m. – 2.30 p.m.
Mae'r llwybr troed cyhoeddus sy'n dilyn Afon Crewi i fyny'r afon o Felinbyrhedyn wedi gordyfu mewn mannau. Byddwn yn cerdded ar hyd y llwybr ac yn clirio mieri, rhedyn a changhennau sydd wedi syrthio i'w wneud ychydig yn fwy hygyrch.

Ni fyddwn yn cerdded yn gyflym ond mae'r tir yn arw, yn fwdlyd ac yn llithrig felly mae'r daith gerdded / gweithgaredd yma ar gyfer pobl sy'n teimlo'n
ddiogel ar eu traed.

Rydym wedi meddwl yn ofalus am wneud y gweithgaredd yma mor ddiogel â phosib o ran Covid ond wrth gwrs ni allwn ddileu pob risg. Bydd wyth lle:
gall un person neu un 'swigen gymdeithasol' o ddau o bobl (fel y disgrifir yng nghanllawiau'r llywodraeth) gymryd pob lle.
Comisiynir y daith gerdded gan Brosiect Dolau Dyfi. Mae'r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae sawl nod:
●Cerdded a gweithio a mwynhau cefn gwlad gyda'n gilydd (gan gadw pellter cymdeithasol).
●Dangos rhai teithiau cerdded newydd i bobl.
●Gwella mynediad i'r hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal – er budd pawb (cerddwyr, perchnogion tir ac ati).

Pellter a gwaith dringo - 6km (4 milltir), ychydig iawn o ddringo.
Arweinwyr – Jenny Dingle (MLC, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored) a Fiona Moran
ARCHEBU'N HANFODOL (er mwyn sicrhau arfer diogel o ran Covid)
I GAEL RHAGOR O WYBODAETH NEU I ARCHEBU, CYSYLLTWCH Â: jennydingle@gmail.com