Ngŵyl Frenhinol y Gwanwyn Cymru

21/05/2017 9:00

20-21ain Mai Bydd PONT yng Ngŵyl Frenhinol y Gwanwyn Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt. Bydd gennym safle arddangos, merlod i chi eu cyfarfod ac rydym yn noddi stondinau cymdeithas y bridiau brodorol o wartheg hefyd. dod o hyd i mi 20-21ain Mai Bydd PONT yng Ngŵyl Frenhinol y Gwanwyn Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt. Bydd gennym safle arddangos, merlod i chi eu cyfarfod ac rydym yn noddi stondinau cymdeithas y bridiau brodorol o wartheg hefyd.

dod o hyd i mi

Dewch draw i’n stondin ni yng Ngŵyl y Gwanwyn RWAS yn ardal y stondinau gwartheg. Mae Molly, y Cob Cymreig, a Twt, y ferlen Fynydd Gymreig, yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi.

Bydd gennym wybodaeth am ein gwaith, byddwn yn lansio ein hwb gwybodaeth newydd a bydd arddangosfeydd rhyngweithiol i blant eu mwynhau. Dyma gyfle i gael gwybod sut gallwch chi ymwneud â PONT drwy brosiectau, digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi lleol.

Cymerwch ran yn ein cystadleuaeth i ddod o hyd i Dewi, y llo Du Cymreig, ar ein gwefan, a bydd y ddau berson cyntaf i ddod o hyd iddo’n ennill gwobr! PONT yw noddwr y stondinau gwartheg brid brodorol ac mae pori cadwraeth yn hanfodol er mwyn cadw ein cynefinoedd a’n tirweddau hardd yn y cyflwr gorau posib. Rydym yn cefnogi’r cymdeithasau sy’n gwneud hyn yn bosib.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!

dod o hyd i mi