Nod Prosiect Dolau Dyfi yw gwella a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt a helpu i gysylltu pobl a byd natur drwy amrywiaeth o weithgareddau mewn cymunedau lleol ac yn yr ardal ehangach

Rheoli tir a Chadwraeth Natur
Nod yr holl weithgarwch rheoli tir yw gwella neu adfer cynefinoedd o flodau.

Mynediad
Bydd y prosiect yn cytuno ar raglen waith er mwyn gwella llwybrau a chyfleoedd mynediad yn ardal y prosiect.

Iechyd a Lles
Fel rhan o brosiect Dolau Dyfi, rydyn ni wedi creu rhai gweithgareddau i’n helpu i ddarganfod ardal Dolau Dyfi a mwynhau’r awyr agored ar yr un pryd!

Y Celfyddydau
Bydd y gweithgarwch hwn yn darparu cyfleoedd amrywiol i bobl gymryd rhan. Hefyd byddwn yn gweithio tuag at greu prif ddarn neu ddarnau ar gyfer y prosiect a fydd yn ffocws nifer o ddigwyddiadau.