Cefndir Cefn Coch
Mae Fferm Cefn Coch yn fferm fechan tua 40 erw yn yr ucheldir, yn swatio mewn dyffryn diarffordd ym Mynyddoedd y Cambrian.
Er nad yw wedi cael ei ‘moderneiddio’ yn arbennig erioed gyda chyflwyno rheolaeth ddwys, ac wedi’i hamgylchynu gan gynefinoedd lled-naturiol, mae’n cadw llawer o nodweddion naturiol a bioamrywiaeth. Mae hyn yn gwneud y fferm yn lle delfrydol i ymarfer ffermio dwysedd isel, cyfeillgar i natur.
Symudodd Joe Hope i Fferm Cefn Coch 7 mlynedd yn ôl o’r Alban lle bu’n gweithio fel ecolegydd yn arbenigo mewn cennau. Cyn gwneud unrhyw newidiadau mawr, bu’n arsylwi ac yn astudio’r eiddo a’r ardal o’i amgylch, gan edrych yn arbennig ar ecoleg a hanes defnydd tir.
Darganfu leoliad sy’n doreithiog o ran bywyd gwyllt, gydag un o brif gynefinoedd cen y sir wedi’i leoli mewn coetir ychydig i lawr y dyffryn. Roedd llawer o goed a llwyni o amrywiaeth o oedrannau a rhywogaethau ar y fferm, nid yn unig yn y coetiroedd glannau afon, ond hefyd o fewn y caeau.
Mae coed a thir pori cymysg, a elwir yn borfa goed neu sylfoborfa, wedi dod yn fwyfwy prin wrth i ffermio ddod yn fwy mecanyddol, ond mae gwyddonwyr a ffermwyr bellach yn sylweddoli bod llawer o fanteision i’r mathau hyn o systemau. Ers 2017 mae Fferm Cefn Coch wedi cael ei rheoli’n fwriadol fel amaethgoedwigaeth.
Un rhan hanfodol o unrhyw system sylfofugeiliol yw’r da byw sy’n pori ynddi. Ar hyn o bryd mae gan y fferm fuches gynyddol o 24 o wartheg.
Mae’r buchod magu yn gymysgedd o Wartheg yr Ucheldir a Gwartheg Gwynion Cymreig. Dewiswyd y bridiau hyn am nifer o resymau. Maent yn perfformio’n ddigon da ar borfa wael, felly does dim pwysau i ychwanegu gwrtaith, a fyddai’n lleihau gwerth cadwraeth y glaswelltir. Maent yn fodlon y tu allan drwy’r gaeaf ac yn bwyta’r glaswellt wrth iddo dyfu.
Yn ogystal, Gwartheg yr Ucheldir yw un o’r bridiau a ddefnyddir amlaf ar gyfer pori cadwraeth, gan hybu bioamrywiaeth, ond mae’r Gwartheg Gwynion Cymreig yn frîd brodorol lleol sydd â photensial tebyg.
Er mwyn adfer rhai ardaloedd ar gyfer pori, mae 4 mochyn sy’n groes o Saddleback a baedd gwyllt wedi cael eu defnyddio i glirio rhedyn a mieri.
Cefn Coch ym Mhrosiect Dolau Dyfi
Mae Dolau Dyfi wedi bod yn allweddol o ran cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau o blanhigion glaswelltir asid, yn enwedig rhywogaethau o flodau gwyllt, drwy bori gan wartheg.
Sefydlu clawdd terfyn a lleihau’r gorchudd o redyn fu prif flaenoriaethau’r safle. Ariannodd y prosiect osod seilwaith newydd, gan gynnwys tair giât mynediad a ffens drydan a fydd yn parhau yn eu lle.
Er mwyn cwblhau’r cyfleusterau trin gwartheg, gosodwyd giatiau ychwanegol yn eu lle hefyd.
Defnyddir pori gan wartheg fel ffordd o sathru rhedyn a phori drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio system bori cylchdro. Mae pori cylchdro yn ddull o bori dan reolaeth lle mae anifeiliaid yn cael eu hadleoli i laswellt newydd ar ôl pori mewn un lle am gyfnod penodol o amser.
Bydd y stoc yn derbyn cyflenwad di-dor o laswellt o ansawdd uchel drwy gael ardaloedd pori neu badogau amrywiol cyn mynd yn ôl i’r un cychwynnol.
Mae’r ardal yn cael ei monitro drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ymddangosiad fflora newydd ac i nodi rhywogaethau sydd wedi cael eu hannog i dyfu oherwydd y dulliau cadwraeth a ddefnyddir ar Fferm Cefn Coch.