Farming for the Future / Ffermio ar gyfer y Dyfodol ar Benrhyn Llŷn

National Trust PONT Cymru farming for the future Llyn Peninsula

National Trust

Trialling a Payment for Outcomes agri-environment scheme on the Llyn Peninsula

Here at PONT we are working together with the Tir a Môr Llŷn partnership  and the National Trust on an exciting new trial of a ‘Payment for Outcomes’ agri-environment scheme on the Llyn Peninsula. The work is funded by the National Trust and the Welsh Government Sustainable Management Scheme.

Why is this needed?

Our current agri-environment schemes in Wales are designed to fund farmers to complete actions for wildlife on their farms according to strict ‘prescriptions’. The idea is that the payments encourage farmers to farm in a more wildlife-friendly manner and so have a net-benefit for wildlife across our farmed landscape. However, the schemes currently in use are found by the farming community to be inflexible and  non-adaptive. As a result they have not delivered the benefits for nature which are needed to reverse the decline in biodiversity.

What is a ‘Payment for Outcomes’ scheme?

Grazed coastal heath habitat, habitats such as these can attract funding‘Payment for Outcomes’ schemes are a different approach to agri-environment schemes. This type of scheme offers payments based on the desired outcomes for habitats or species rather than specific actions, and places the decision making in the hands of the farmer. Simply speaking, the more that the farmer can offer and achieve, the greater the payment. One scheme which highlights the success of this method more than any is in the Burren in Ireland. Greater success has also been seen with this method in our neighbouring European countries.

Farming for the Future on Llyn

On the Llyn Peninsula, the National Trust is trialling this approach with their farming tenants.

They aim to work with their tenants to develop a payment for outcome model which can influence options for future management agreements, and help test options for future agri-environmental schemes.

The ‘outcome’ on Llŷn

Here we’ll be focusing on how we can get the coastal slopes and heathland habitats into better shape within the Llyn Special Area of Conservation. The aim is a wider and more diverse coastal corridor with neighbouring fields more flower-rich and attractive to insects and birds, with a softer transition to productive, sustainably managed land that helps support the farming system.

It is an exciting opportunity to begin the journey with the farming community towards habitat gains, but also to look at opportunities to strengthen the farm business through diversification and sound business planning.  Illustrating that working with nature through sustainable farming can maintain and even enhance farm sustainability is crucial to the trials success.

The scheme will run for 3 years, by which time it is expected we will be well on our way to helping nature recover.

For more information, contact PONT Cymru.

 

highland cattle pont cymru agri-environment schemes

Treialu cynllun amaeth-amgylcheddol Talu am Ganlyniadau ar Benrhyn Llŷn

 

Yma yn PONT rydym yn cydweithio gyda phartneriaeth Tir a Môr Llŷn a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gynllun newydd cyffrous, cynllun amaeth-amgylcheddol ‘Talu am Ganlyniadau’ sy’n cael ei dreialu ar Benrhyn Llŷn. Mae’r gwaith yn cael ei gyllido gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chynllun Rheolaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru.

 

Agri-environment schemes pont cymruPam mae angen hyn?

Nod ein cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru yw cyllido ffermwyr i gwblhau camau gweithredu er budd bywyd gwyllt ar eu ffermydd yn unol â ‘phresgripsiwn’ manwl. Y syniad yw bod y taliadau’n annog ffermwyr i ffermio mewn ffordd fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt ac felly maent yn arwain at fudd i fywyd gwyllt ar draws ein tirlun sy’n cael ei ffermio. Er hynny, mae’r gymuned ffermio’n teimlo bod y cynlluniau sydd ar waith ar hyn o bryd yn anhyblyg ac yn anodd eu haddasu. O ganlyniad nid ydynt wedi arwain at y manteision i fyd natur y mae eu hangen er mwyn gwyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

 

Beth yw cynllun ‘Talu am Ganlyniadau’?

Mae cynlluniau ‘Talu am Ganlyniadau’ yn gynlluniau amaeth-amgylcheddol gwahanol. Mae’r math yma o gynllun yn cynnig taliadau’n seliedig ar y canlyniadau a ddymunir ar gyfer cynefinoedd neu rywogaethau, yn hytrach na chamau gweithredu penodol, ac mae’n gosod y penderfyniadau yn nwylo’r ffermwr. Yn syml, po fwyaf y gall y ffermwr ei gynnig a’i gyflawni, y mwyaf fydd y taliad. Mae un cynllun sy’n tynnu sylw at lwyddiant y dull hwn o weithredu yn fwy nag unrhyw un arall i’w weld yn Burren yn Iwerddon. Mae mwy o lwyddiant wedi’i sicrhau gyda’r dull hwn yn ein gwledydd Ewropeaidd cyfagos hefyd.

 

Yellow rattle meadow agri-environment schemes pont cymruFfermio ar gyfer y Dyfodol ar Benrhyn Llŷn

Ar Benrhyn Llŷn, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn treialu’r dull yma gyda thenantiaid ei ffermydd.  Ei nod yw gweithio gyda’i thenantiaid i ddatblygu model talu am ganlyniadau sy’n gallu dylanwadu ar opsiynau ar gyfer cytundebau rheoli yn y dyfodol, a helpu i brofi opsiynau ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol.

 

Y ‘canlyniad’ ar Benrhyn Llŷn

Yma byddwn yn canolbwyntio ar sut gallwn ni gael y llethrau arfordirol a’r rhostir mewn cyflwr gwell yn Ardal Cadwraeth Arbennig Llŷn. Y nod yw coridor arfordirol ehangach a mwy amrywiol gyda mwy o flodau yn y caeau cyfagos yn atyniadol i bryfed ac adar, gyda phontio meddalach at dir cynhyrchiol sy’n cael ei reoli’n gynaliadwy ac yn helpu i gefnogi’r system ffermio.

Mae’n gyfle cyffrous dechrau ar y siwrnai hon gyda’r gymuned ffermio tuag at ennill cynefin, ond hefyd edrych ar gyfleoedd i gryfhau’r busnes ffermio drwy arallgyfeirio a chynllunio busnes cadarn. Mae hyn yn dangos bod gweithio gyda byd natur drwy ffermio cynaliadwy’n gallu cynnal a hyd yn oed gwella cynaliadwyedd ffermydd ac mae hyn yn allweddol i lwyddiant y cynllun treialu.

 

Bydd y cynllun yn weithredol am 3 blynedd ac erbyn hynny mae disgwyl y byddwn wedi cymryd camau mawr ymlaen i helpu byd natur i adfer.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>