{"id":10870,"date":"2021-12-01T16:49:32","date_gmt":"2021-12-01T16:49:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.pontcymru.org\/trial-management\/"},"modified":"2021-12-01T19:00:07","modified_gmt":"2021-12-01T19:00:07","slug":"rheoli-dolydd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/","title":{"rendered":"Rheoli Dolydd"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Adfer dolydd gan ddefnyddio moch br\u00eed prin.<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-1 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<p>Roedd d\u00f4l fechan 0.2ha ger Bishopston wedi ildio\u2019i lle i fieri a phrysgwydd oherwydd blynyddoedd lawer o esgeuluso. <\/p>\n\n\n\n<p>Torrwyd y prysgwydd yn \u00f4l gan ddefnyddio peiriant torri gwair, gan adael tir noeth. Cyflwynwyd moch i fwyta gwreiddiau\u2019r mieri a sicrhau nad oedd y mieri\u2019n ailsefyldu ar y dd\u00f4l. <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y moch yn cael eu rheoli fel rhan o glwb moch cymunedol, gyda&#8217;r aelodau&#8217;n berchen ar gyfranddaliadau yn y moch ac yn gofalu amdanynt, gan gymryd cyfran yn y pen draw yn y porc moesegol o ansawdd uchel a gynhyrchwyd yn ystod y gwaith o adfer y dd\u00f4l. Dylai hadau o darddiad lleol wedi&#8217;u haredig i&#8217;r tir noeth gynhyrchu gwyndwn sy&#8217;n llawn rhywogaethau.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"720\" src=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Pig-960x720.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-10859\" srcset=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Pig-960x720.jpg 960w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Pig-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Pig-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Pig-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Pig-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/Pig.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Awyriad y pridd.<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod profion pridd ar y dolydd, gwelwyd bod llawer o&#8217;r dolydd wedi dioddef o gywasgiad pridd a draeniad gwael. Defnyddiwyd holltwr pridd ar y dolydd i awyru&#8217;r pridd a gwella\u2019r draeniad. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn er mwyn lleihau rhai o&#8217;r rhywogaethau llai dymunol fel brwyn meddal, blodyn menyn ymlusgol a maswellt penwyn. Dylai cyflwr y pridd wella o ganlyniad a ffafrio gwyndwn sy&#8217;n fwy cyfoethog o ran rhywogaethau. Nid yw&#8217;r dull hwn mor ymledol \u00e2 dulliau fel codi gwyndwn ac ni ddylai gael effaith niweidiol ar ffyngau\u2019r glaswelltir<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pori gyda Merlod a Gwartheg<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-2 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Mae dwy o&#8217;r dolydd ar swbstrad tywodlyd wedi newid dros amser, gan ddatblygu i fod yn debycach i laswelltir twyni a rhostir. Datgelodd profion ar gyflwr y pridd y lefel isel o ddeunydd organig sydd yn y pridd, mae&#8217;n debygol bod y glaswelltiroedd yn asideiddio wrth i&#8217;r calsiwm ddiferu o&#8217;r pridd tywodlyd. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gwyndwn o ganlyniad yn llawn rhedyn gwenwynig ac felly nid yw o werth mawr fel gwair porthiant. Yn ystod y prosiect hwn fe wnaethom arbrofi gyda phori gyda gwartheg a merlod i ddechrau, ac wedyn torri a chasglu&#8217;r glaswelltau annymunol a adawyd ar \u00f4l. Mae&#8217;r gostyngiad yn y deunydd wedi\u2019i dorri\u2019n golygu bod posib cael gwared arno ar y safle, mewn lleoliadau sy&#8217;n wynebu&#8217;r de i ddadelfennu. Mae&#8217;n gwneud safle dodwy wyau rhagorol i neidr y gwair. Bydd pori yn cyflwyno mwy o ddeunydd organig i&#8217;r pridd na&#8217;r drefn arferol o dorri a symud.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"467\" src=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/grazing-roydons-960x467.jpg\" alt=\"cattle grazing on Gower\" class=\"wp-image-10862\" srcset=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/grazing-roydons-960x467.jpg 960w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/grazing-roydons-600x292.jpg 600w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/grazing-roydons-300x146.jpg 300w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/grazing-roydons-768x373.jpg 768w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/grazing-roydons-1536x746.jpg 1536w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/grazing-roydons.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Torri ar gyfer gwair neu silwair <\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-3 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Mae gwair neu silwair yn cael ei dorri ar laswelltir sydd \u00e2 lefel uchel o faethynnau. Mae\u2019r torri\u2019n digwydd ddiwedd yr haf ac mae\u2019n cael ei ddefnyddio fel porthiant ar gyfer da byw. Dros amser bydd y lefelau artiffisial o uchel o faethynnau, synthetig yn aml, yn y pridd yn gostwng wrth i ddeunydd gael ei symud. Dros amser bydd cyflwr y pridd yn dychwelyd i gydbwysedd a bydd y gronfa hadau naturiol yn mynegi ei hun. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r dull hwn yn llawer arafach nag ailhadu, ond bydd yn cynhyrchu gwyndwn sy&#8217;n frodorol i&#8217;r ardal honno ac yn diogelu amrywiaeth enetig yn y tymor hir.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"960\" height=\"467\" src=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/scythe-course-12-960x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-10867\" srcset=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/scythe-course-12-960x467.jpg 960w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/scythe-course-12-600x292.jpg 600w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/scythe-course-12-300x146.jpg 300w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/scythe-course-12-768x373.jpg 768w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/scythe-course-12-1536x746.jpg 1536w, https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/scythe-course-12.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 960px) 100vw, 960px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Defnyddir da byw yn y dolydd hyn i bori&#8217;r aildyfiant (adladd), maent yn lleihau glaswelltau cystadleuol, yn sathru hadau i&#8217;r pridd ac yn cyflwyno tail i&#8217;r pridd. Maent yn rhan hanfodol o iechyd dolydd. Maent yn cael eu symud yn y gwanwyn i roi cyfle i&#8217;r dolydd dyfu a blodeuo.<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau nid yw&#8217;n bosibl pori glaswelltiroedd, fel y rhai mewn parciau trefol neu ar hyd ymylon ffyrdd. Mae&#8217;r rhain yn cael eu torri a&#8217;u casglu neu eu torri a&#8217;u cribinio \u00e2 llaw, ar \u00f4l gadael i\u2019r glaswelltir flodeuo a bwrw had. Bydd hyn, dros amser, yn galluogi i wyndwn sy&#8217;n llawn rhywogaethau ddatblygu.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019n bosibl, dylai dolydd gael eu torri\u2019n flynyddol (neu debyg), ond mewn rhai achosion nid yw hyn yn bosibl. Gall pori yn y gaeaf gynnig ateb, ond dim ond gwartheg a cheffylau sy&#8217;n gallu lleihau&#8217;r gwyndwn yn ddigonol gan nad yw defaid yn gallu defnyddio&#8217;r coesyn marw a dail glaswelltau. Ni fydd hyn yn lleihau lefelau\u2019r maethynnau yn y pridd ond bydd yn cael gwared ar y gwyndwn cystadleuol, gan roi cyfle i berlysiau dyfu y gwanwyn canlynol, ar \u00f4l atal pori.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwrychoedd<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gan y G\u0175yr rwydwaith cymhleth o wrychoedd o arwyddoc\u00e2d hanesyddol. Maent yn hafan i fywyd gwyllt, yn dal a storio carbon ac yn darparu cysgod i dda byw a chynnal uwchbridd. Rydym wedi helpu i adfer rhai ohonynt. Mae\u2019r gwrychoedd ar hyd llwybrau troed a ddefnyddir yn helaeth, un ar hyd y llwybr cerdded cenedlaethol poblogaidd, \u2018Llwybr G\u0175yr\u2019. Mae gwrychoedd wedi\u2019u plygu gan arbenigwyr lleol ar blygu gwrych yn yr arddull leol, \u2018Flyer\u2019 G\u0175yr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Adfer dolydd gan ddefnyddio moch br\u00eed prin. Roedd d\u00f4l fechan 0.2ha ger Bishopston wedi ildio\u2019i lle i fieri a phrysgwydd oherwydd blynyddoedd lawer o esgeuluso. Torrwyd y prysgwydd yn \u00f4l gan ddefnyddio peiriant torri gwair, gan adael tir noeth. Cyflwynwyd moch i fwyta gwreiddiau\u2019r mieri a sicrhau nad oedd y mieri\u2019n ailsefyldu ar y dd\u00f4l. Roedd y moch yn cael eu rheoli fel rhan o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/\" class=\"more-link\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Rheoli Dolydd<\/span> <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":204,"featured_media":10857,"parent":10847,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/no-margins-wfi.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-10870","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rheoli Dolydd | PONT<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rheoli Dolydd | PONT\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Adfer dolydd gan ddefnyddio moch br\u00eed prin. Roedd d\u00f4l fechan 0.2ha ger Bishopston wedi ildio\u2019i lle i fieri a phrysgwydd oherwydd blynyddoedd lawer o esgeuluso. Torrwyd y prysgwydd yn \u00f4l gan ddefnyddio peiriant torri gwair, gan adael tir noeth. Cyflwynwyd moch i fwyta gwreiddiau\u2019r mieri a sicrhau nad oedd y mieri\u2019n ailsefyldu ar y dd\u00f4l. Roedd y moch yn cael eu rheoli fel rhan o &hellip; Continue reading Rheoli Dolydd &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"PONT\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-12-01T19:00:07+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"933\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@pontcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/\",\"url\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/\",\"name\":\"Rheoli Dolydd | PONT\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg\",\"datePublished\":\"2021-12-01T16:49:32+00:00\",\"dateModified\":\"2021-12-01T19:00:07+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg\",\"width\":1920,\"height\":933},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Prosiect Dolydd a Gwrychoedd G\u0175yr\",\"item\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Rheoli Dolydd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/\",\"name\":\"PONT\",\"description\":\"Adeiladu pontydd, helpu natur, gwella tirweddau\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rheoli Dolydd | PONT","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rheoli Dolydd | PONT","og_description":"Adfer dolydd gan ddefnyddio moch br\u00eed prin. Roedd d\u00f4l fechan 0.2ha ger Bishopston wedi ildio\u2019i lle i fieri a phrysgwydd oherwydd blynyddoedd lawer o esgeuluso. Torrwyd y prysgwydd yn \u00f4l gan ddefnyddio peiriant torri gwair, gan adael tir noeth. Cyflwynwyd moch i fwyta gwreiddiau\u2019r mieri a sicrhau nad oedd y mieri\u2019n ailsefyldu ar y dd\u00f4l. Roedd y moch yn cael eu rheoli fel rhan o &hellip; Continue reading Rheoli Dolydd &raquo;","og_url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/","og_site_name":"PONT","article_modified_time":"2021-12-01T19:00:07+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":933,"url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@pontcymru","twitter_misc":{"Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/","url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/","name":"Rheoli Dolydd | PONT","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg","datePublished":"2021-12-01T16:49:32+00:00","dateModified":"2021-12-01T19:00:07+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.pontcymru.org\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/cae-felin.jpg","width":1920,"height":933},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/rheoli-dolydd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Prosiect Dolydd a Gwrychoedd G\u0175yr","item":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/prosiect-dolydd-a-gwrychoedd-gwyr\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Rheoli Dolydd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website","url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/","name":"PONT","description":"Adeiladu pontydd, helpu natur, gwella tirweddau","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.pontcymru.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"publishpress_future_workflow_manual_trigger":{"enabledWorkflows":[]},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10870","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/204"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10870"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10870\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10881,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10870\/revisions\/10881"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10847"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10857"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10870"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}