{"id":10533,"date":"2020-07-28T15:31:19","date_gmt":"2020-07-28T14:31:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.pontcymru.org\/dolau-dyfi\/about-the-dolau-dyfi-project\/"},"modified":"2020-08-14T17:49:19","modified_gmt":"2020-08-14T16:49:19","slug":"gair-am-prosiect-dolau-dyfi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/","title":{"rendered":"Gair am Prosiect Dolau Dyfi"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae glaswelltir lled-naturiol tir isel wedi dioddef colledion dramatig a amcangyfrifir fel 97% yn y DU ers 1930 a dim ond darnau ar wasgar o ddolydd tir isel, rhostir a chorsydd sydd ar \u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd \u00e2 gwaith i wyrdroi\u2019r dirywiad yn lleol ac felly\u2019n gwella ac yn adfer cynefinoedd o flodau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau, ac o fudd hefyd i bryfed peillio, adar tir amaethyddol a rhywogaethau eraill, gan greu cyfleoedd newydd i weithio gyda byd natur.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rheoli cadwraeth ymarferol ar laswelltiroedd, mawndir a ffridd wedi\u2019i gytuno eisoes a\u2019i gostio fel rhan o\u2019r prosiect gyda mwy na 30 o berchnogion tir lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith y bydd y prosiect yn buddsoddi ynddo\u2019n cynnwys rheoli prysgwydd, rhedyn ac eithin, ffensys a seilwaith arall ar gyfer pori, yn ogystal \u00e2 help ymarferol i fonitro effaith y gwaith sy\u2019n cael ei wneud. Bydd Gr\u0175p Dolau Dyfi yn cael ei sefydlu i gefnogi perchnogion tir i reoli eu cynefinoedd sy\u2019n blodeuo yn y tymor hir.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd bydd y prosiect yn buddsoddi mewn gweithgarwch sy\u2019n helpu pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau manteision byd natur a gweithio gyda\u2019u hamgylchedd naturiol a dysgu amdano.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan ddefnyddio clychlys dail eiddew fel symbol nodedig o fywyd gwyllt sy\u2019n arbennig yn yr ardal, bydd Dolau Dyfi yn ymgymryd \u00e2 gwaith gyda grwpiau, sefydliadau ac unigolion lleol i ddatblygu syniadau ar gyfer gwell mynediad a gweithgareddau celf.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y prosiect hefyd yn buddsoddi mewn rhaglen o deithiau tywys a gweithgareddau gwirfoddolwyr, er budd iechyd a lles, drwy gydol cyfnod y prosiect, sy\u2019n weithredol tan ddiwedd mis Mehefin 2022.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-1 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:66.66%\">\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pwy sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r prosiect?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn cael ei arwain gan Pori Natur a Threftadaeth (PONT). Cwmni cyfyngedig trwy warant bychan, nid-er-elw, yw PONT sy\u2019n gweithio i ddarparu pori cadwraeth yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am PONT, ewch i www.pontcymru.org<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd PONT yn recriwtio Swyddog Prosiect a Lleoliad Myfyriwr a fydd yn gweithio o\u2019r Plas ym Machynlleth.<\/p>\n\n\n\n<p>Cefnogir darparu\u2019r Prosiect gan Gr\u0175p Llywio Dolau Dyfi. Mae\u2019r gr\u0175p yn cael ei gadeirio gan Ecodyfi ac mae\u2019r aelodau\u2019n cynrychioli gwahanol agweddau ar y prosiect a byddant yn ein helpu i weithio gyda gwahanol sectorau, cymunedau ac unigolion.<\/p>\n\n\n\n<p>Ein nod ni yw cynnwys cymaint o bobl \u00e2 phosib mewn datblygu syniadau ar gyfer y prosiect ac ymuno \u00e2\u2019n gweithgareddau ni. Os oes gan unrhyw un syniadau am sut gallwn ni wneud hyn, cysylltwch (edrychwch ar y manylion cyswllt ar waelod y dudalen). Hefyd byddwn yn creu tudalen prosiect Dolau Dyfi ar wefan PONT ac adnoddau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y prosiect. Mae croeso i unrhyw syniadau.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column callout primary is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:33.33%\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut mae\u2019r prosiect yn cael ei gyllido?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig &#8211; Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 \u2013 Cynllun Rheoli Cynaliadwy sy&#8217;n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r RSPB yn cyfrannu hefyd.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth fydd y prosiect yn ei wneud?<\/h2>\n\n\n\n<div class=\"row collapse\">\n<div class=\"medium-3 columns\">\n<ul id=\"example-vert-tabs\" class=\"tabs vertical\" data-deep-link=\"true\" data-tabs=\"\">\n<li class=\"tabs-title is-active\"><a href=\"#management-conservation\">Rheoli tir a Chadwraeth Natur<\/a><\/li>\n<li class=\"tabs-title\"><a href=\"#access\">Mynediad<\/a><\/li>\n<li class=\"tabs-title\"><a href=\"#health\">Iechyd a Lles<\/a><\/li>\n<li class=\"tabs-title\"><a href=\"#arts\">Y Celfyddydau<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<div class=\"medium-9 columns\">\n<div class=\"tabs-content vertical\" data-tabs-content=\"example-vert-tabs\">\n<div id=\"management-conservation\" class=\"tabs-panel is-active\">\n<h3>Rheoli tir a Chadwraeth Natur<\/h3>\n<p>Bydd y prosiect yn ymgymryd \u00e2\u2019r gweithgarwch y cytunwyd arno yn y cam ymgeisio, gan gynnwys ffensys, giatiau newydd, clirio prysgwydd a rhedyn a helpu i sefydlu pori cyfeillgar i fyd natur. Gall rhywfaint o\u2019r gwaith amrywio o\u2019r cais gwreiddiol oherwydd bydd pethau wedi newid yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.<\/p>\n<p>Nod yr holl weithgarwch rheoli tir yw gwella neu adfer cynefinoedd o flodau.<\/p>\n<p>Yn ystod y prosiect, bydd y Swyddog Prosiect yn helpu i sefydlu gr\u0175p dolau i sicrhau bod perchnogion tir yn gallu rhannu profiadau a chefnogi ei gilydd yn y tymor hir.<\/p>\n<\/div>\n<div id=\"access\" class=\"tabs-panel\">\n<h3>Mynediad<\/h3>\n<p>Bydd y prosiect yn cytuno ar raglen waith er mwyn gwella llwybrau a chyfleoedd mynediad yn ardal y prosiect.<\/p>\n<p>Seiliwyd rhestr o gynigion yn y cais ar ymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd gan PONT a Gr\u0175p Llwybr Marchogaeth Ceredigion. Bydd y rhestr yma\u2019n cael ei defnyddio i ysgogi trafodaeth ehangach gyda phart\u00efon sydd \u00e2 diddordeb lle bydd cyfle i ychwanegu syniadau eraill. Bydd y rhestr yn cael ei blaenoriaethu a\u2019r gwaith yn cael ei wneud rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mai 2022.<\/p>\n<p>Mae\u2019n debygol y bydd y gwaith yn cael ei weithredu fesul cam gydag ail gyfle i roi gwybod ble yn union fydd gwelliannau\u2019n digwydd yn nes ymlaen yn 2020.<\/p>\n<\/div>\n<div id=\"health\" class=\"tabs-panel\">\n<h3>Iechyd a Lles<\/h3>\n<p>Ceir 3 elfen i\u2019r gwaith iechyd a lles ac mae cyswllt agos rhyngddo a\u2019r thema mynediad uchod:<\/p>\n<ul>\n<li>Bydd y prosiect yn gweithio gyda phrosiect Iechyd Awyr Agored Biosffer Dyfi sy\u2019n cael ei gyflwyno gan Ecodyfi, Coed Lleol ac eraill er mwyn darparu cyfleoedd i bobl ymuno \u00e2 theithiau tywys a gweithgareddau eraill i wella iechyd. Bydd hyn yn cael ei gysylltu \u00e2\u2019r cynllun presgripsiwn cymdeithasol newydd sy\u2019n cael ei ddatblygu yn yr ardal a bydd nifer o\u2019r rhai sy\u2019n cymryd rhan yn cael cefnogaeth i wneud hynny drwy gael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu neu ddarparwr iechyd arall.<\/li>\n<li>Bydd y prosiect yn llunio deunyddiau dwyieithog i helpu pobl i fynd am dro eu hunain, naill ai drwy frandio penodol ar lwybrau neu drwy ganllawiau papur neu ar-lein, gan ddibynnu ar beth sydd fwyaf defnydiol i ddefnyddwyr lleol. Bydd y llwybrau hyn yn cael eu cynllunio gan feddwl am wahanol alluoedd a byddant yn nodi lefel yr her a\u2019r pellter yn glir.<\/li>\n<li>Yn olaf, bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli dan oruchwyliaeth mewn gwaith cadwraeth ymarferol, rheoli llwybrau troed neu weithgarwch arall, gan ddibynnu ar y galw.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<div id=\"arts\" class=\"tabs-panel\">\n<h3>Y Celfyddydau<\/h3>\n<p>Mae gan y prosiect gyllideb fechan ar gyfer cynnal gweithgareddau celfyddydol. Y syniad yw cynnal gweithdai a digwyddiadau\u2019n seiliedig ar greu deunydd sy\u2019n berthnasol i ffermio, byd natur a thema blodau gwyllt y prosiect.<\/p>\n<p>Bydd y gweithgarwch hwn yn darparu cyfleoedd amrywiol i bobl gymryd rhan. Hefyd byddwn yn gweithio tuag at greu prif ddarn neu ddarnau ar gyfer y prosiect a fydd yn ffocws nifer o ddigwyddiadau.<\/p>\n<p>Ymhlith y syniadau sy\u2019n cael eu trafod mae arddangosfa ar gyfer Gorymdaith Lanternau a mynd i lawer o sioeau amaethyddol lleol, gan orffen yn un o\u2019r sioeau mwy e.e. yn Aberystwyth.<\/p>\n<p>Hefyd bydd y prosiect yn creu ffilm i ddangos pa mor arbennig yw\u2019r ardal a gall pobl leol ei defnyddio mewn ysgolion, digwyddiadau cymunedol ac ati.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-2 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ble fydd y prosiect yn gweithio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Prosiect Dolau Dyfi yn ymestyn ar draws ardal Biosffer Dyfi o\u2019r m\u00f4r yn Aberdyfi i droed Mynyddoedd y Cambrian ac mae\u2019n cynnwys rhannau o Geredigion, Powys, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae llawer o\u2019r gweithgarwch cadwraeth natur wedi\u2019i gytuno yn y cam ymgeisio ac mae\u2019r perchnogion tir wedi cofrestru eisoes. Mae gwaith arall, fel gwelliannau mynediad, taith dywys, gweithgarwch celfyddydau a chyfleoedd i wirfoddolwyr, angen ei gytuno o hyd. Bydd y prosiect yn cynnwys Aberystwyth a Machynlleth a hefyd trefi llai a phentrefi yn ardal y prosiect.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Am faint mae\u2019r prosiect yn weithredol?s the project running for?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dyddiad gorffen y prosiect yw 30ain Mehefin 2022. Y syniad yw y bydd rhai manteision yn parhau y tu hwnt i\u2019r dyddiad hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall hyn ddigwydd drwy gynllun presgripsiwn cymdeithasol, cynllun mabwysiadu llwybr a Gr\u0175p Dolau Dyfi, a hefyd oherwydd gwelliannau seilwaith fel bod pori cyfeillgar i fyd natur yn gallu parhau ar ddolau blodau gwyllt newydd.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut mae\u2019r prosiect yn ymwneud \u00e2 phrosiectau eraill yn yr ardal?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae PONT yn gweithio gydag aelodau\u2019r gr\u0175p llywio i gael gwybod cymaint \u00e2 phosib am y gweithgarwch presennol. Y nod fydd gweithio gyda phrosiectau, cynlluniau a mentrau eraill heb ddyblygu gwasanaethau na gweithgareddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Un esiampl yw y byddwn yn datblygu rhaglen o deithiau tywys. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud hyn mewn cysylltiad \u00e2 phrosiect Iechyd Awyr Agored Biosffer Dyfi.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd ein staff yn gweithio yn swyddfeydd Ecodyfi yn Y Plas a bydd hyn yn hwyluso cydweithredu ag eraill. Os oes gennych chi unrhyw syniadau, cofiwch gysylltu.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"row\" data-equalizer=\"\">\n<div class=\"medium-8 columns\">\n<div class=\"callout\" data-equalizer-watch=\"\">\n<h4>Sut gallaf gymryd rhan?<\/h4>\n<p>Byddwn yn cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau eraill i ddod \u00e2 phobl at ei gilydd i roi sylw i agweddau penodol ar y prosiect ac i wrando ar bryderon a syniadau pobl leol. Un esiampl fydd y gweithgareddau celf, ond nid yw thema gyffredinol ein dull o weithredu wedi\u2019i chytuno eto.<\/p>\n<p>Cadwch lygad am gyfarfodydd, digwyddiadau, gweithdai ac ati sy\u2019n cael eu cynnal gan gynllun Dolau Dyfi a chysylltwch os byddech yn hoffi dod iddynt.<\/p>\n<p>Hefyd byddwn yn cynnal teithiau tywys a chyfleoedd i wirfoddolwyr. Eto, os hoffech chi gymryd rhan, rhowch wybod i ni.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"medium-4 columns\">\n<div class=\"callout primary\" data-equalizer-watch=\"\">\n<h4>Gyda phwy allaf i gysylltu?<\/h4>\n<p>Cyswllt Dros Dro Staff PONT ym Mangor<\/p>\n<p>Julia Korn neu <a href=\"mailto:admin@pontcymru.org\">Jan Sherry<\/a><\/p>\n<p>07421 994860 \/ 4861<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i ni recriwtio staff, byddwn yn cyhoeddi eu manylion oherwydd byddant yn fwy lleol i\u2019r prosiect. Hefyd byddwn yn sefydlu cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y prosiect.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae glaswelltir lled-naturiol tir isel wedi dioddef colledion dramatig a amcangyfrifir fel 97% yn y DU ers 1930 a dim ond darnau ar wasgar o ddolydd tir isel, rhostir a chorsydd sydd ar \u00f4l. Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd \u00e2 gwaith i wyrdroi\u2019r dirywiad yn lleol ac felly\u2019n gwella ac yn adfer cynefinoedd o flodau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau, ac o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/\" class=\"more-link\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Gair am Prosiect Dolau Dyfi<\/span> <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":10525,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-templates\/full-width.php","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-10533","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gair am Prosiect Dolau Dyfi | PONT<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gair am Prosiect Dolau Dyfi | PONT\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae glaswelltir lled-naturiol tir isel wedi dioddef colledion dramatig a amcangyfrifir fel 97% yn y DU ers 1930 a dim ond darnau ar wasgar o ddolydd tir isel, rhostir a chorsydd sydd ar \u00f4l. Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd \u00e2 gwaith i wyrdroi\u2019r dirywiad yn lleol ac felly\u2019n gwella ac yn adfer cynefinoedd o flodau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau, ac o &hellip; Continue reading Gair am Prosiect Dolau Dyfi &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"PONT\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-08-14T16:49:19+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@pontcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/\",\"url\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/\",\"name\":\"Gair am Prosiect Dolau Dyfi | PONT\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website\"},\"datePublished\":\"2020-07-28T14:31:19+00:00\",\"dateModified\":\"2020-08-14T16:49:19+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dolau Dyfi\",\"item\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gair am Prosiect Dolau Dyfi\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/\",\"name\":\"PONT\",\"description\":\"Adeiladu pontydd, helpu natur, gwella tirweddau\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.pontcymru.org\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gair am Prosiect Dolau Dyfi | PONT","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gair am Prosiect Dolau Dyfi | PONT","og_description":"Mae glaswelltir lled-naturiol tir isel wedi dioddef colledion dramatig a amcangyfrifir fel 97% yn y DU ers 1930 a dim ond darnau ar wasgar o ddolydd tir isel, rhostir a chorsydd sydd ar \u00f4l. Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd \u00e2 gwaith i wyrdroi\u2019r dirywiad yn lleol ac felly\u2019n gwella ac yn adfer cynefinoedd o flodau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau, ac o &hellip; Continue reading Gair am Prosiect Dolau Dyfi &raquo;","og_url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/","og_site_name":"PONT","article_modified_time":"2020-08-14T16:49:19+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@pontcymru","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/","url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/","name":"Gair am Prosiect Dolau Dyfi | PONT","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website"},"datePublished":"2020-07-28T14:31:19+00:00","dateModified":"2020-08-14T16:49:19+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/gair-am-prosiect-dolau-dyfi\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dolau Dyfi","item":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/dolau-dyfi\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gair am Prosiect Dolau Dyfi"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.pontcymru.org\/#website","url":"https:\/\/www.pontcymru.org\/","name":"PONT","description":"Adeiladu pontydd, helpu natur, gwella tirweddau","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.pontcymru.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"publishpress_future_workflow_manual_trigger":{"enabledWorkflows":[]},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10533","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10533"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10533\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10538,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10533\/revisions\/10538"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/10525"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.pontcymru.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10533"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}