Gweithdy a Thaith Gerdded – TALIESIN yn defnyddio’r map i gynllunio teithiau cerdded, ewch ati i ddod o hyd i’r ffordd a gweld ble rydym ni’n cael mynd
£0.00
Mae'r gweithdy hwn ar gyfer pobl sy'n dymuno magu hyder wrth ddefnyddio mapiau'r Arolwg Ordnans i gynllunio teithiau cerdded a chanfod eu ffordd wrth gerdded yn yr awyr agored. Mae mapiau O.S. yn cynnwys gwybodaeth ryfeddol a all fod yn hwyl i'w datrys ac sy'n ei gwneud yn bosib i unrhyw un gynllunio taith gerdded dda heb i unrhyw un arall ei dangos yn gyntaf. Arweinir y gweithdy gan Jenny Dingle (Tystysgrif Arweinyddiaeth Mynydd, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored).
Byddwn yn dechrau mewn ardal awyr agored gysgodol yn Nhaliesin. Byddwn yn edrych yn fanwl ar allwedd y map, yn siarad am ddarllen cyfuchliniau, yn edrych ar yr wybodaeth am fynediad ar y map (hawliau tramwy, ardaloedd mynediad agored a mynediad arall) ac yn siarad am ffyrdd o 'osod' y map. Byddwn hefyd yn trafod sut i ganfod pellteroedd ac amseroedd siwrneiau. Bydd digon o fapiau i bawb gael un.
Wedyn byddwn yn mynd ar daith gerdded gylch 3km (2 filltir) a fydd yn mynd â ni i fyny'r bryn i’r De Ddwyrain o Daliesin, ar hyd y gefnen gyda golygfeydd trawiadol ac i lawr heibio i waith mwynglawdd Erglodd yn ôl i Daliesin. Byddwn i gyd yn darllen y map yn fanwl ar y daith gerdded hon. Mae ychydig yn serth mewn mannau ac yn arw / mwdlyd dan draed ond bydd y cyflymder yn ystyried anghenion y grŵp cyfan – nid oes angen brysio.
Rydym wedi meddwl yn ofalus am wneud y gweithgaredd hwn mor ddiogel â phosib o ran Covid ond wrth gwrs ni allwn ddileu pob risg. Bydd wyth lle.
Comisiynir y daith gerdded hon gan Brosiect Dolau Dyfi. Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
ARCHEBU’N HANFODOL (i sicrhau arfer diogel o ran Covid)