Dychwelyd i Felinbyrhedyn ar gyfer taith gerdded gan gadw pellter cymdeithasol gyda chlirio llwybrau troed
£0.00
Dydd Iau 17 Rhagfyr,
9.30 a.m. – 2.30 p.m.
Mae'r llwybr troed cyhoeddus sy'n dilyn Afon Crewi i fyny'r afon o Felinbyrhedyn wedi gordyfu mewn mannau. Ym mis Tachwedd, buom yn cerdded y llwybr yma gan lwyddo i glirio cryn dipyn o’r isdyfiant oedd wedi ymledu. Rydym yn gobeithio cwblhau’r dasg yma (fel bod y llwybr troed cyhoeddus yn addas i gerdded arno o leiaf ar hyn o bryd) ar 17 Rhagfyr.
Ni fyddwn yn cerdded yn gyflym ond mae'r tir yn arw, yn fwdlyd ac yn llithrig felly mae'r daith gerdded / gweithgaredd yma ar gyfer pobl sy'n teimlo'n ddiogel ar eu traed. Rydym wedi meddwl yn ofalus am wneud y gweithgaredd yma mor ddiogel â phosib o ran Covid ond wrth gwrs ni allwn ddileu pob risg. Bydd wyth lle: gall un person neu un 'swigen gymdeithasol' o ddau o bobl (fel y disgrifir yng nghanllawiau'r llywodraeth) gymryd pob lle.
Comisiynir y daith gerdded gan Brosiect Dolau Dyfi. Mae'r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth
Cymru.
Mae sawl nod:
· Cerdded a gweithio a mwynhau cefn gwlad gyda'n gilydd (gan gadw pellter cymdeithasol).
· Dangos rhai teithiau cerdded newydd i bobl.
· Gwella mynediad i'r hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal – er budd pawb (cerddwyr, perchnogion tir ac ati).
Pellter a gwaith dringo - 6km (4 milltir), ychydig iawn o ddringo.
Arweinwyr – Jenny Dingle (MLC, Cymorth Cyntaf i Arweinwyr Awyr Agored) a Fiona Moran
ARCHEBU'N HANFODOL (er mwyn sicrhau arfer diogel o ran Covid) I GAEL RHAGOR O WYBODAETH NEU I ARCHEBU, CYSYLLTWCH Â: jennydingle@gmail.com