Cynhaliwyd Sioe Calon y Cwm
01/09/2018 10:30 - 01/09/2018 17:30
Am yr ail flwyddyn yn olynol mae PONT wedi llogi rhan o faes y sioe i ddangos sut y gall arferion rheoli tir traddodiadol a phori cadwraethol arwain at lawer o fanteision i fywyd gwyllt a phobl, nawr ac yn y dyfodol. Dewch i gwrdd â’r anifeiliaid sy’n pori, defnyddio pladur gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a darganfod sut mae gweirgloddiau’n cael eu rheoli. Cewch gyfle hefyd i gwrdd ag Andy a Jessie, y ceffylau gwedd hardd. Cynhaliwyd Sioe Calon y Cwm am y tro cyntaf yn 2012, gan fod yr aelodau cychwynnol yn teimlo bod angen ac awydd am ddigwyddiad teuluol, addysgiadol a fforddiadwy yn y cwm, a fyddai’n seiliedig ar dreftadaeth wledig yr ardal a chrefftau a sgiliau lleol. Roedd yr aelodau cychwynnol yn teimlo bod pobl yn gyffredinol wedi colli cysylltiad â chefn gwlad, a bod diffyg dealltwriaeth o’r gymuned wledig ac, o ganlyniad, y byddai’n syniad da ceisio ailgysylltu’r gymuned leol a’r gymuned wledig drwy gyfrwng sioe leol gyfeillgar, hen ffasiwn a fyddai’n dod â phobl at ei gilydd. Am yr ail flwyddyn yn olynol mae PONT wedi llogi rhan o faes y sioe i ddangos sut y gall arferion rheoli tir traddodiadol a phori cadwraethol arwain at lawer o fanteision i fywyd gwyllt a phobl, nawr ac yn y dyfodol. Dewch i gwrdd â’r anifeiliaid sy’n pori, defnyddio pladur gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a darganfod sut mae gweirgloddiau’n cael eu rheoli. Cewch gyfle hefyd i gwrdd ag Andy a Jessie, y ceffylau gwedd hardd. Cynhaliwyd Sioe Calon y Cwm am y tro cyntaf yn 2012, gan fod yr aelodau cychwynnol yn teimlo bod angen ac awydd am ddigwyddiad teuluol, addysgiadol a fforddiadwy yn y cwm, a fyddai’n seiliedig ar dreftadaeth wledig yr ardal a chrefftau a sgiliau lleol. Roedd yr aelodau cychwynnol yn teimlo bod pobl yn gyffredinol wedi colli cysylltiad â chefn gwlad, a bod diffyg dealltwriaeth o’r gymuned wledig ac, o ganlyniad, y byddai’n syniad da ceisio ailgysylltu’r gymuned leol a’r gymuned wledig drwy gyfrwng sioe leol gyfeillgar, hen ffasiwn a fyddai’n dod â phobl at ei gilydd.