Heddiw oedd y cyntaf o’n “Teithiau Cerdded Cynnal a Chadw”, sy’n rhan o weithgareddau iechyd a lles Dolau Dyfi ar y cyd â Coed Lleol ac Ecodyfi.
Mae’r rhain yn deithiau cerdded tywys gyda’r bonws ychwanegol o wneud rhywfaint o waith cynnal a chadw sylfaenol iawn fel torri canghennau bach yn ôl ar hyd y llwybr troed, a chasglu sbwriel. Y tywyswyr gwych heddiw oedd Jenny Dingle a Gabriella Walsh, a oedd yn llawn gwybodaeth ar hyd y ffordd.
Mwynhaodd pawb a ymunodd â’n gweithgaredd newydd.Mae’r teithiau cerdded hyn ar gael i unrhyw un ymuno â hwy, ond oherwydd rheoliadau covid-19, mae cyfyngiad ar nifer y cyfranogwyr ar bob taith gerdded ac maent yn seiliedig ar y cyntaf i’r felin.Bydd gwybodaeth am y teithiau cynnal a chadw/gweithgarwch yn y dyfodol ar gael yma, neu cysylltwch â ni ar e-bost.
Felly os ydych chi eisiau mynd ar daith gerdded am ba reswm bynnag, dewch i ymuno â ni!!Hefyd mae Dolau Dyfi wedi cyhoeddi rhai canllawiau cerdded lleol y gallwch ddod o hyd iddynt yma pontcymru.org/dolau-dyfi/wellbeing-activities/