Mae llawer o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau celfyddydol sydd wedi’u cyllido gan y prosiect yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Fe wnaeth Ennyn CIC waith gwych yn crwydro’r ardal gan ennyn brwdfrydedd pobl am flodau gwyllt brodorol, siarad gyda phobl i ddysgu am hanes lleol a gweithio gydag artistiaid a phlant i greu adnoddau gwych a chynnal perfformiadau byw i ysbrydoli a mwynhau.

Adnoddau


Mae tîm y prosiect yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran ac rydyn ni wedi rhannu’r adnoddau drwy’r wefan yma, gan gynnwys:

Ffilm Dolau Dyfi

Wedi’i greu gan y cwmni cynhyrchu fideos lleol, Culture Colony, yn 2020 a’i lansio fel digwyddiad ar-lein yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid. Mae ar gael ar yr hafan.

Y Map Rhyngweithiol

Wedi’i greu gan Ennyn, gallwch ddod o hyd i hwn ar yr hafan. Cliciwch ar yr eiconau i ailymweld â rhai o’r gweithgareddau fel ffilmiau, cerddoriaeth a lluniau gan ddefnyddio’r sain, fideo, teithiau cerdded a blodau gwyllt. Mae’r ffilm yma’n cysylltu â’r llyfr.

Three Short Walks in the Dyfi Biosphere / Tair Taith Gerdded Fer Ym Miosffer Dyfi

Fe gafodd y llyfr hyfryd yma ei greu gan Ennyn hefyd ac mae’n mynd â chi ar siwrnai ar hyd 3 taith gerdded leol, un yr un yn: Dinas Mawddwy, Llanbrynmair a Machynlleth. Mae’n gymaint mwy na chanllaw cerdded gan ei fod yn cynnwys straeon lleol yn llawn gwybodaeth am ddiwylliant lleol, hanes a natur. Mae gan bob taith luniau wedi’u darlunio â llaw gan gynnwys map a fydd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’ch ffordd. Mae awgrymiadau defnyddiol ar sut i gadw da byw, cnydau, bywyd gwyllt a chi eich hun yn ddiogel wrth gerdded yng nghefn gwlad.

Pob llun Nicky Ascott, Beth Davies a Julia Korn

Hefyd wedi’u creu fel rhan o’r gwaith celfyddydol mae:

Y cardiau post hardd sydd wedi’u creu o lun a gynhyrchwyd gan blant Ysgol Bro Idris ac Ysgol Llanbrynmair

Fideos wedi’u creu gan Ennyn sy’n dangos i chi sut i greu collage blodau gwyllt, mwgwd peilliwr neu wŷdd blodau gwyllt.

DIGWYDDIADAU CYHOEDDUS

Gweithio gydag ysgolion – rhwng 2020 a 2022, bu Ennyn CIC yn gweithio’n agos gyda 3 ysgol yn yr ardal: Ysgol Bro Idris yn Ninas Mawddwy, Ysgol Llanbrynmair ac Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Dechreuodd yr ymgysylltu â’r disgyblion gyda gweithdai ar-lein yn haf 2020. Ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio, trefnwyd 8 gweithgaredd mewn ysgolion a chafodd y disgyblion hwyl yn yr ysgol a’r tu allan yn dysgu am eu blodau gwyllt lleol ac yn creu eu gwaith celf eu hunain. Mae rhai o’u lluniau hardd wedi cael eu defnyddio fel cardiau post, ar fyrddau arddangos ar ffermydd ac fel posteri mawr wedi’u hargraffu mewn digwyddiadau. Tybed allwch chi ddod o hyd iddyn nhw ar wahanol dudalennau’r wefan yma.

World of Wildflowers / Gerddi Bro Ddyfi ym Machynlleth 10 Gorffennaf 2021 gyda 29 o bobl yn bresennol. I glywed Owen Shiers yn y digwyddiad cliciwch ar y botwm coch ar y map rhyngweithiol.

Symud Therapiwtig, Cerdded i fyny’r Wylfa a Sesiwn Creadigol dan arweiniad Cai Tomos 14 Mawrth 2022

Roedd y diwrnod hwn yn cynnwys symud therapiwtig, gwaith celf a thaith gerdded ger Machynlleth i’r Wylfa. Cafodd ei fwynhau gan 10 o bobl o’r grwpiau cerdded iach.

Digwyddiad Dathlu Dolau Dyfi ar 24 Medi a gynhaliwyd yn y Plas, Machynlleth gyda pherfformiadau gan amrywiaeth o artistiaid a pherfformwyr lleol, teithiau cerdded tywys, stondinau a gwesteion arbennig – Geifr Llaethdy Dyfi

Digwyddiad Ymgysylltu Cerddoriaeth Gorllewinwynt, Adrodd Straeon a Pherfformiad Celf Byw Dolau Dyfi

29 Ionawr 2023 – tua 50 o bobl yn bresennol ac yn mwynhau. Cefnogwyd y digwyddiad hwn gan brosiect Dolau Dyfi a ariannodd y darlunio byw i adrodd straeon a pherfformiadau cerddorol.

Gweithdy garddio Cartref Dyfi – cartref gofal Machynlleth ar 7 ac 8 Chwefror. Yn cael ei gynnal gan Grace Crabb o Tymhorau a’i fwynhau gan 8 o breswylwyr a staff sy’n plannu hadau a bylbiau yn y cartref gofal.

Digwyddiad Agor Siop Tymhorau ar 11 Chwefror 2023. Roedd gan brosiect Dolau Dyfi bresenoldeb yn y digwyddiad hwn a dosbarthwyd Llyfrau Stori.

Adborth gweithdai zoom Ennyn CIC

Diolch am y sesiwn fantastic! Dyma llun Tomos. A fyddech mor garedig a gadael I ni wbod pam fydd ‘Arty Parti’….
Rhian

Brilliant project. Elliw throughly enjoy her zoom meeting with you all. And her canvas painting looks amazing. Picture to follow when she’s finished doing all her finishing touches.
Many thanks. 
Molly

Photos from today’s session.  Soffia had a wonderful time!  Luke had a great time. He thought it was fun! He doesn’t feel confident doing arty stuff but said you explained how to do everything. Diolch. x
Natalie

Cara wedi lyfio sesiwn bore ma Elin, wrth i bodd a ti di neud i blwyddyn hn canu penblwydd hapus hefyd diolch xxx rho wbod os oes gena chi blanie i neud mwy fydde ni mwy na hapus i dalu am wbeth fel ne iddi mai di mwynhau gymint diolch xxx
Manon

Here is a picture of Marged with some of her work. She really enjoyed the workshop.
Caryl

Diolch yn fawr iawn am y gweithdy celf Elin, plant di rili mwynhau,
Eirian

Diolch am weithdy arbennig!!
C Lloyd


Collage Blodau


Masg Peilliwr


Gwydd Blodau

Cyfle i gael eich ysbrydoli gan y blodau gwyllt hardd o’ch amgylch a chreu gwŷdd blodau gwyllt. Defnyddiwch ein fideo (wedi’i greu gan ENNYN C.I.C) i’ch helpu i ddechrau arni a gweld beth allwch chi ei greu. Cofiwch mai dim ond ychydig o flodau ddylech chi eu cymryd, a dim ond os oes digon, gan fod y peillwyr eu hangen hefyd!

Tynnwch lun o’r hyn rydych chi wedi’i greu a’i roi yn y sylwadau, fe fyddem ni wrth ein bodd yn ei weld. Cofiwch y gallwch chi ein helpu ni i archwilio ardal prosiect Dolau Dyfi drwy lenwi’r arolwg blodau gwyllt – gallwch wneud hynny ar yr un pryd â chasglu blodau gwyllt ar gyfer y gwŷdd! Pigwch blodau gwyllt yn gyfrifol.

Dylech ddim ond cymryd ychydig ar y tro. Pigwch blodau o gardd neu tir eich hunain, neu o wrychoedd ac ymylon ffyrdd. PEIDIWCH BYTH â pigo blodau o dir preifat neu o safleoedd a ddiogelir. Os ydych yn ansicr cysylltwch â PONT.


Proffil