Surveys developed by the Dolau Dyfi Project

Arolwg Pryfed Peillio
Gallwch gynnal yr arolwg yn eich gardd, ar eich fferm neu pan rydych yn mynd allan am dro yn ddyddiol.
Dylech ddewis diwrnod cynnes, heulog os yn bosib, unrhyw bryd rhwng mis Ebrill a mis Awst. Lawrlwythwch daflen yr arolwg a llenwi’r manylion.
Wedyn dewiswch ddarn o laswelltir, gwrych neu ymyl glaswellt gyda blodau a dewis un math o flodyn h.y. blodyn menyn, ysgall, llygad y dydd a chyfrif faint o bryfed sy’n ymweld â’r blodau mewn cyfnod o 5 munud wedi’i amseru.
Ceisiwch gyfrif y pryfed yn ôl math e.e. gwenyn, glöynnod byw, chwilod ac ati. Gallwch lawrlwytho English taflen adnabod o’r wefan ganlynol.
Tynnwch luniau o’r blodau a’r pryfed gyda’ch ffôn, eich tabled neu eich camera os gwelwch yn dda.
Os gallwch chi sganio neu dynnu llun eich taflenni wedi’u llenwi, anfonwch nhw gyda’ch lluniau i Swyddfa Prosiect Dolau Dyfi os gwelwch yn dda Richard.jones@pontcymru.org

Arolwg Adnabod Blodau Gwyllt
Gallwch gynnal yr arolwg yn eich gardd, ar eich fferm neu pan rydych yn mynd allan am dro yn ddyddiol.
Gallwch wneud hyn ar unrhyw amser rhwng mis Ebrill a mis Medi tra bydd gwahanol flodau yn eu blodau.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw lawrlwytho taflen yr arolwg a chwilio am y blodau. Dywedwch wrthym ble welsoch chi’r blodyn i ddechrau drwy ysgrifennu cod y cynefin yn y bocs nesaf at y blodyn.
Tynnwch luniau o’r blodau a’r pryfed gyda’ch ffôn, eich tabled neu eich camera os gwelwch yn dda.
Tynnwch luniau o’r blodau gyda’ch ffôn, eich tabled neu eich camera os gwelwch yn dda. Os gallwch chi sganio neu dynnu llun eich taflenni wedi’u llenwi, anfonwch nhw gyda’ch lluniau i Swyddfa Prosiect Dolau Dyfi os gwelwch yn dda Richard.jones@pontcymru.org