Treialwyd archwilio gwybodaeth hanesyddol am ddolydd lleol fel ffordd o ennyn diddordeb pobl yn lleol mewn gwarchod y dolydd fel rhan o’r prosiect hwn. Cafodd Helen Nicholas o Gower Unearthed gontract i edrych ar gefndir hanesyddol Dôl Prior.
Mae’r adroddiad o ganlyniad , ‘Mwyngloddiau a Dolydd’,yn sefydlu cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol cadarn Dolydd Prior a sut maent yn cael eu defnyddio a’u gwerthfawrogi gan bobl leol.
Gall nodi’r cyd-destun hanesyddol ddatgelu naratif sy’n dechrau edrych ar y berthynas rhwng pobl a’r tir.
Mae’r adroddiad ar Ddôl Prior yn rhoi enghraifft ddiddorol o sut gall hanes darn cymharol fach o dir gysylltu â stori ddiwydiannol Gŵyr a rhanbarth De Cymru gyfan.
Nid yw Dôl Prior wedi newid llawer ers 600 mlynedd ac i lawer o bobl leol mae’n creu atgofion da am amser a dreuliwyd ym myd natur. Mae edrych ar gyd-destun hanesyddol y ddôl wedi cysylltu atgofion pobl â’r gorffennol pell a’u helpu i ddeall y ddôl yn well.
Felly mae sefydlu’r cyd-destun hanesyddol hwn yn gwella arwyddocâd diwylliannol a gall chwarae rhan bwysig yn strategaethau cadwraeth dolydd y dyfodol a sut i gynnwys pobl leol yn eu cynaliadwyedd yn y dyfodol.
Dyma pam y bydd prosiect ar y Gŵyr yn y dyfodol yn ceisio adeiladu ar yr enghraifft hon a datblygu straeon tebyg ar gyfer dolydd eraill a hefyd gwrychoedd (ac efallai nodweddion ffiniau traddodiadol eraill) ar Benrhyn Gŵyr.