Lleoliad: Llandre, Borth
Disgrifiad safle:
Mae’r safle hwn yn cynnwys dau gau o laswelltir niwtral a chornel o laswelltir corsiog gyda phwll bychan. Roedd y glaswelltir niwtral wedi ei ail-hadu yn y blynyddoedd flaenorol, ond oherwydd diffyg pori a/neu dorri gwair, mae’r safle wedi tyfu’n wyllt a wedi’w dominyddu gan rhywogaethau laswelltog.
Hanes y safle:
Prynodd y perchenogion presennol y safle yn y flwyddyn 2000, fel llain o dir ag ysgubor adfail, cyn hyn defnyddiwyd y tir i bori gwartheg gan fferm gyfagos. Newidwyd defnydd y tir i gymryd cnwd o wair unwaith y flwyddyn yn hytrach na pori. Nid yw’r tir wedi derbyn unrhyw wrtaith na chemegau ers iddynt fod yn berchen arno. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, daeth mwy o rywogaethau blodau gwyllt yn bresennol yn y caeau.
Yn 2010, daeth y tir i gytundeb â “Wildmeadows Wales”, lle roedd grant ar gael i baratoi’r tir a’i ail-hadu gyda hadau a gafwyd gan Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru. Parhawyd i gymryd toriad o wair yn flynyddol, ond gostyngodd nifer y bêls a gynhyrchwyd o flwyddyn i flwyddyn, a gwaethygodd iechyd y ffermwr cyfagos i’r pwynt lle nad oedd bellach yn gallu mynd â’r gwair.
Nid oes cnwd o wair wedi ei gynhyrchu ar y caeau ers tua pedair mlynedd, felly dyna pam eu bod wedi tyfu’n wyllt a wedi’u dominyddu gan rhywogaethau laswelltog.
Amcanion y safle:
• Sefydlu weirglodd glaswelltir niwtral, llawn blodau gwyllt gyda rhywogaethau amrywiol, drwy torri cnwd o wair a pori.
• Cynyddu’r cynefin dyfrol drwy adfer y pwll.
Rheolaeth:
Bydd y caeau’n cael eu cau oddiwrth da byw o Ebrill y 1af yn flynyddol, er mwyn i’r glaswellt a’r blodau gwyllt dyfu. O ganol Orffennaf, fydd y borfa’n cael ei dorri i gynhyrchu cnwd o wair. Erbyn y cyfnod hyn, bydd y blodau gwyllt wedi cynhyrchu eu hadau, a thrwy chwalu’r gwair, fydd yr hadau’n cael eu wasgaru, a fydd llawer ohonynt yn disgyn ar y llawr. Bydd llawer o’r hadau yn aros yn y blodau, a fyddant yn cael eu byrnu ynghyd â’r gwair, gelwir y gwair hwn yn “species rich hay”.
Pan fydd y gwair wedi’i glirio oddi ar y caeau, bydd da byw yn cael eu cadw oddi arnynt am gyfnod o 4 wythnos arall i ganiatáu i’r llystyfiant ailsefydlu, gelwir y tyfiant hwn yn “adladd”. Bydd merlod neu gwartheg yn cael eu defnyddio i bori’r adladd. Penderfynwyd fydd merlod mynydd Cymreig yn cael eu defnyddio ar y safle hwn. Pwrpas y merlod fydd i rheoli uchder y borfa, a thorri wyneb y caeau’n ysgafn ar gyfer unrhyw hadau sy’n cael eu gollwng o’r blodau cael eu claddu.
Bydd y borfa’n cael ei monitro i sicrhau bod y merlod yn gwneud gwaith boddhaol. Rhaid osgoi gorbori a tan-bori’r caeau, a ddylid gofalu nad yw’r merlod yn ddifrodi neu’n potsio’n ddifrifol pan fydd y caeau’n gwlychu. Byddan yn caniatau i’r merlod pori’r caeau’n ysgafn yn ystod y gaeaf, ond os yw’r caeau’n gor gwlychu â dŵr glaw byddant yn cael eu tynnu i ffwrdd fel nad ydynt yn achosi difrod.
Bydd y safle cyfan yn cael ei fonitro yn ystod y gwanwyn a’r haf i adnabod gwahanol rywogaethau planhigion, a’u poblogaeth.
Mae rhai o’r gwahanol rywogaethau o flodau gwyllt a welir ar y safle ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Llygad Llo Mawr
- Tresgl Y Moch
- Tegeirian Brych
- Cribell Felen
- Pysen-y-ceirw
- Ysgallen Y Gors
- Blodyn Llefrith
- Y feddyges las
Gwaith a wnaed hyd yma:
Chwefror 2020: Torri, casglu a clirio’r hen dyfiant glaswellt oddi ar y safle.
Chwefror/Mawrth 2020: Gosod ffensys stoc newydd o gwmpas y cae mwyaf o’r ddau.
Gwaith i’w wneud:
Gorffennaf 2020: Torri a byrnu gwair (ddibynnol ar y tywydd!)
Awst 2020: Cyflwyno merlod
Hydref 2020: Adfer y pwll