Mae Moelgolomen yn fferm ddefaid ac eidion organig yn ddwfn yng nghalon mynyddoedd y Cambrian.

Ar hyn o bryd mae’n cael ei ffermio gan Rhodri, ei wraig Sarah a’u tri phlentyn Elen, Ariana a Cai. Hefyd rhieni Rhodri, Simon a Monica.

Yn ogystal â chynhyrchu cig eidion o’u gyr o wartheg duon Cymreig a chig oen a chig dafad o’u diadell o ddefaid mynydd Cymreig gwydn maent wedi bod â diddordeb brwd erioed yn yr amgylchedd a’r bywyd gwyllt sy’n ffynnu ar y fferm.

Maent wedi bod yn rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol erioed. I ddechrau, Tir Gofal, ac yn fwy diweddar, Glastir, felly pan gododd y cyfle i gymryd rhan ym mhrosiect PONT, roeddent yn barod iawn i neidio am y cyfle.

Y gobaith oedd helpu i annog mwy o flodau gwyllt i dyfu ar y fferm a thrwy hynny greu mwy o amrywiaeth o fflora a fyddai, yn ei dro, yn annog mwy o amrywiaeth o bryfed peillio.

Gwnaed hyn trwy dorri darnau mawr o eithin yn ôl er mwyn galluogi i’r blodau gwyllt ddychwelyd.

Wedyn roedd yr eithin yn cael ei droi’n falurion a’i ddefnyddio fel gwasarn ychwanegol dros y gaeaf o dan y gwartheg i helpu i greu tail buarth gyda lefel uchel o nitrogen i’w ddychwelyd fel gwrtaith organig i’r caeau silwair.

Gyda’r eithin bellach wedi’i glirio, y gobaith yw rheoli’r ardal gan ddefnyddio stoc i bori a, lle bo hynny’n bosibl, torri’r eithin a’r rhedyn yn ôl er mwyn galluogi i’r fflora islaw ffynnu.