Arolwg Pryfed Peillio

Gallwch gynnal yr arolwg yn eich gardd, ar eich fferm neu pan rydych yn mynd allan am dro yn ddyddiol.

Dylech ddewis diwrnod cynnes, heulog os yn bosib, unrhyw bryd rhwng mis Ebrill a mis Awst. Lawrlwythwch daflen yr arolwg a llenwi’r manylion.

Wedyn dewiswch ddarn o laswelltir, gwrych neu ymyl glaswellt gyda blodau a dewis un math o flodyn h.y. blodyn menyn, ysgall, llygad y dydd a chyfrif faint o bryfed sy’n ymweld â’r blodau mewn cyfnod o 5 munud wedi’i amseru.

Ceisiwch gyfrif y pryfed yn ôl math e.e. gwenyn, glöynnod byw, chwilod ac ati. Gallwch lawrlwytho taflen adnabod o’r wefan ganlynol.

Tynnwch luniau o’r blodau a’r pryfed gyda’ch ffôn, eich tabled neu eich camera os gwelwch yn dda.

Os gallwch chi sganio neu dynnu llun eich taflenni wedi’u llenwi, anfonwch nhw gyda’ch lluniau i Swyddfa Prosiect Dolau Dyfi os gwelwch yn dda Richard.jones@pontcymru.org